Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Mae Stephen wedi treulio'r rhan fwyaf o'i yrfa fel ditectif, mewn rolau uwch ar draws plismona lleol a throseddau arbenigol, gan gynnwys nifer o flynyddoedd fel Uwch Swyddog Ymchwilio gydag Adran Lladdiadau a Throseddau Arbenigol y Met. Yn ystod y cyfnod hwnnw, arweiniodd nifer o ymchwiliadau llofruddiaeth hyd at ddiweddglo llwyddiannus.
Fel Ditectif Uwcharolygydd, mae wedi gweithio mewn rolau plismona lleol ymestynnol, ynghyd â rheoli timau adweithiol a thimau cudd wedyn ledled Llundain, gan fynd i'r afael â throseddwyr difrifol ynglŷn â throseddau gangiau a drylliau gydag Adran Gangiau Trident.
Fel Prif Uwcharolygydd ac arweinydd Uned Rheoli Sylfaenol (BCU) Ardal y Dwyrain, bu’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau plismona lleol ar draws bwrdeistrefi Barking a Dagenham, Havering a Redbridge yn nwyrain Llundain.
Ar ôl cwblhau'r Cwrs Rheoli Strategol yn 2021, daeth yn Gomander a Phrif Swyddog wedyn, ac ar hyn o bryd mae'n goruchwylio adran Troseddau Arbenigol ganolog y Met. Mae hyn yn cynnwys unedau sy'n mynd i'r afael â throseddau difrifol a chyfundrefnol sy'n ymwneud â cham-drin plant yn rhywiol ar-lein, seiberdroseddau, twyll a chyllid anghyfreithlon, caethwasiaeth fodern a chamfanteisio, ymchwiliadau cymhleth, achosion oer lladdiadau a Heddlu Gwib y Met.
Ef hefyd yw arweinydd presennol Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC) ar gyfer mynd i'r afael â Throseddau trwy gyfrwng Cyllyll gan weithio'n agos gydag asiantaethau gorfodi'r gyfraith a phartneriaid ledled Cymru a Lloegr, ynghyd â'r Swyddfa Gartref.
Mae Mick yn Uwch Swyddog Ymchwilio profiadol iawn.
Mae’n gweithio ym maes plismona ers dros 30 mlynedd.
Mae Mick wedi bod yn arweinydd mewn Ymchwiliadau Troseddau Mawr, gan arbenigo mewn lladdiadau dros yr 20 mlynedd diwethaf.
Mae gan Tony gefndir helaeth mewn ymchwilio i droseddau mawr a difrifol. Bu’n gwasanaethu am 31 mlynedd fel ditectif gyrfa yn GMP gan ymddeol fel Ditectif Uwcharolygydd yn y Tîm Digwyddiadau Mawr ac ymunodd â'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol.
Ers hynny mae wedi dal nifer o rolau prif ffrwd, gan gynnwys Ymgynghorydd Cenedlaethol i SIOs yn yr adran Cymorth Ymchwilio i Droseddau mawr ac yn fwy diweddar fel Pennaeth Gweithrediadau Cam-drin Plant yn Rhywiol.
Mae'n gynghorydd strategol a hynod brofiadol ers tro byd, wedi'i achredu'n llawn ar lefel PIP3 SIO a PIP4 ac fel awdur mae wedi cyhoeddodd llawlyfrau Blackstone ar ymchwilio i droseddau mawr. Dyfarnwyd OBE iddo am wasanaethau ym maes gorfodi'r gyfraith yn 2023.