Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Ar ddiwedd mis Mai, cynhaliwyd dwy sesiwn ymgysylltu â dioddefwyr ar-lein. Mae crynodeb o’r diweddariadau a roddwyd i’w gweld isod:
Yn ystod diwedd mis Tachwedd a dechrau mis Rhagfyr 2025, cynhaliwyd nifer o sesiynau ymgysylltu â dioddefwyr ar-lein. Rhoddodd y rhain y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd o ran yr ymchwiliad.
Rhannwyd y manylion canlynol:
Rydym bellach yn gallu apelio ar ddioddefwyr a allai fod wedi arwyddo cytundebau peidio â datgelu (NDAs) gyda Swyddfa’r Post i ddod i siarad â thîm yr ymchwiliad.
Mae gennym gadarnhad ysgrifenedig na fydd yr NDAs hyn yn cael eu gorfodi mwyach ac na ddylent atal unrhyw un rhag cael eu llais wedi’i glywed drwy gydol yr ymchwiliad. Gall dioddefwyr gysylltu â ni drwy e-bostio [email protected].
Mae hon yn foment allweddol gan y gallai fod yna rai dioddefwyr sydd wedi dioddef yn dawel, heb erioed siarad ag unrhyw un am eu profiad. Gall hynny nawr newid ac rydym yn barod i wrando.
Rydym yn rhagweld y cyhoeddir adroddiad terfynol yr ymchwiliad cyhoeddus yn 2026. Fodd bynnag, ni wyddom pryd yn union ac nid yw hynny o fewn ein rheolaeth ni. Bydd angen i ni ystyried ei ganfyddiadau’n llawn cyn y gallwn gysylltu â GYG ar gyfer unrhyw benderfyniadau cyhuddo.
Mae’r adroddiad terfynol yn sicr yn ddogfen allweddol i ni. Mae hefyd yn bwysig nodi bod yr ymchwiliad cyhoeddus yn gweithio yn ôl ei gylch gorchwyl ei hun ac nid yn ôl y strategaeth ymchwilio sydd gennym ni.
Er ein bod wedi bod yn gweithio’n galed i adolygu tystiolaeth a chyflwyno ffeiliau cyngor ymchwiliol cynnar i’r GYG, bydd dal angen i ni asesu a gwerthuso canfyddiadau a chynnwys yr ymchwiliad cyhoeddus ar ôl iddo gael ei gyhoeddi.
Mae hyn yn unol ag ymchwiliadau tebyg eraill sy’n rhedeg ochr yn ochr ag ymchwiliad cyhoeddus statudol. Bydd angen i’r tîm ymchwilio a GYG asesu’r adroddiad terfynol a’i effaith bosibl ar Ddatgeliad cyn gwneud unrhyw benderfyniadau cyhuddo terfynol.
Bydd proses adolygu’r adroddiad terfynol yn cymryd nifer o fisoedd gan y bydd angen ei asesu yn erbyn deunydd sydd eisoes wedi’i gyflwyno. Mae hyn er mwyn nodi a oes angen cyflwyniadau pellach.
Yn sicr nid yw’n afresymol tybio, pan fydd yr adroddiad terfynol wedi cyrraedd, y byddwn yn barod i gyflwyno penderfyniad cyhuddo. Ond ni fydd yr adroddiad yn cynrychioli’r holl dystiolaeth sydd ei hangen arnom.
Ers i ni recriwtio’r tîm llawn y llynedd, mae ein prosesau a’n dull yn cael eu deall yn llawer gwell ac rydym wedi cyflymu’r broses yn fawr. Fodd bynnag, wrth wneud hynny, rydym wedi nodi angen am gynnydd pellach i niferoedd ein tîm ymchwilio i geisio cadw at ein hamserlenni. O ganlyniad, rydym yn siarad ar frys â’r Swyddfa Gartref ynghylch cyllid yn y dyfodol. Ni all heddluoedd ariannu hyn ar eu pen eu hunain.
O ystyried maint, graddfa a hyd oes yr ymchwiliad troseddol, disgwylir iddo gostio £30 i £50 miliwn dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.
Mae’r gost hon yn cynnwys costau staffio yn bennaf, ond hefyd drwyddedu TG a storio. Er y bu rhywfaint o gyllid grant gan y Swyddfa Gartref, mae heddluoedd ar hyn o bryd yn cario’r baich trymach ac nid yw hon yn sefyllfa gynaliadwy wrth i ni symud ymlaen.
Mae 2026 yn flwyddyn allweddol a bydd pob blwyddyn o hyn ymlaen yn mynd yn fwy prysur fyth. Mae’n waith heriol a chymhleth sy’n cwmpasu 15 i 17 mlynedd o ddigwyddiadau a thystiolaeth. Ond rydym wedi ymrwymo’n llwyr ac yn canolbwyntio ar gyflawni ein hamcanion.
Mae bron i flwyddyn wedi mynd heibio ers ein sesiynau ymgysylltu â dioddefwyr diwethaf, felly hoffem roi cyfle i bawb glywed y diweddaraf gan y Comander Stephen Clayman (Arweinydd Aur yr ymchwiliad) a Michael Norman (Uwch Swyddog Ymchwilio). Byddant yn trafod y cynnydd hyd yma a’r camau nesaf, yn ogystal ag arwain sesiwn holi ac ateb fer ar y diwedd.
Rydym yn cynnal tair sesiwn 60 munud i sicrhau y bydd gan bawb gyfle i fynychu. Felly, os hoffech ymuno â ni, cofrestrwch isod a byddwch yn derbyn manylion ymuno ar gyfer y diwrnod.
Cofrestrwch ymlaen llaw:
Yn dilyn y sesiynau diweddar ar gyfer dioddefwyr ac unigolion yr effeithiwyd arnynt gan sgandal Horizon Swyddfa’r Post, a gynhaliwyd gan y Comisiynydd Dioddefwyr dros Gymru a Lloegr, y Farwnes Newlove, dyma lythyr a anfonwyd at y Gweinidog Busnes a Masnach. Mae’r llythyr gan y Farwnes Newlove ac mae’n ymwneud â’r cynllun iawndal y gofynnwyd i ni ei rannu. Ni ddylid anfon unrhyw ymholiadau pellach ynghylch y cynllun iawndal at y tîm heddlu, gan nad eu cyfrifoldeb nhw yw hyn.
Noder: dim ond yn Saesneg y mae’r llythyr ar gael.
Mae bron yn flwyddyn ers i ni roi cyfle i’r rheini yr effeithiwyd arnynt gan sgandal Horizon Swyddfa’r Post glywed gan y tîm ymchwilio. Felly rydym wedi trefnu nifer o sesiynau ar-lein ar Microsoft Teams ar ddiwedd mis Tachwedd a dechrau mis Rhagfyr. Byddwn yn rhannu’r gwahoddiadau i’r rhain yn fuan. Os hoffech gael eich ychwanegu at y rhestr bostio i dderbyn y dolenni, anfonwch e-bost at [email protected].
Er bod cyfarfod wyneb yn wyneb bob amser yn well, mae cyfarfod ar-lein yn caniatáu cyrhaeddiad gwell a mwy o hyblygrwydd o ystyried y niferoedd a’r ddaearyddiaeth dan sylw. Hoffai’r tîm annog cymaint â phosibl o’r rheini yr effeithiwyd arnynt i fynychu.
Mae chwe mis ers i dîm yr heddlu sy’n ymchwilio i sgandal Horizon Swyddfa’r Post gael ei gryfhau i 100 o weithwyr. Mae eu gwaith yn parhau i gyflymu gyda’r cwmpas yn cynyddu’n barhaus.
Ar hyn o bryd mae dros 45 o unigolion dan ymchwiliad wrth i ymholiadau fynd rhagddynt. Mae saith wedi’u nodi’n ffurfiol fel rhai dan amheuaeth.
Ar gychwyn yr ymchwiliad dechreuodd y tîm, sy’n cynnwys swyddogion a staff o bob rhan o’r wlad, gyda thua 1.5 miliwn o ddogfennau i edrych trwyddynt. Trwy gasglu tystiolaeth mae hyn bellach wedi cynyddu i 6 miliwn. Disgwylir i nifer y dogfennau, y rhai dan amheuaeth a’r dioddefwyr gynyddu.
Goruchwylir yr ymchwiliad Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC) a’r Met, dan arweiniad Comander Stephen Clayman. Meddai:
"Mae dioddefwyr yn parhau i fod wrth wraidd yr ymchwiliad hwn ac mae ein cysylltiad â nifer y bobl yr effeithiwyd arnynt gan sgandal Horizon Swyddfa’r Post yn parhau i gynyddu. Yr wythnos hon (25 Mehefin) cyfarfu’r tîm ymchwilio cyfan wyneb yn wyneb am y tro cyntaf yn ystod ein diwrnod datblygu gweithredol, cyfle gwerthfawr i ddod ynghyd ac ail-gadarnhau ein ffocws ar y strategaeth ymchwilio a thrafod y camau nesaf.
"Hyd yn hyn, mae pedwar unigolyn wedi cael eu cyfweld. Dau ar ddiwedd 2021, un ar ddiwedd 2024 ac yn fwyaf diweddar un ar ddechrau 2025. Mae nodi’n ffurfiol rywun dan amheuaeth a pharatoi i’w holi yn cymryd cryn dipyn o amser oherwydd maint y deunydd a’r ymholiadau sydd eu hangen, felly bydd y niferoedd hyn yn parhau i gynyddu wrth i waith y tîm fynd rhagddo.
"Rydym yn gwneud cynnydd ac yn gosod y sylfeini ar gyfer yr hyn sydd i ddod. Mae gan bawb ohonom ymrwymiad personol i’r ymchwiliad hwn sy’n mynd ymhell y tu hwnt i ddogfennau a thystiolaeth. Mae’n ymwneud â’r miloedd o fywydau gafodd eu newid gan sgandal Horizon Swyddfa’r Post ac rydym yn parhau i ganolbwyntio ar ein nod o sicrhau cyfiawnder i’r rheini yr effeithiwyd arnynt."
Mae pedwar Tîm Ymchwilio Rhanbarthol sy’n cynnwys heddluoedd ledled Cymru a Lloegr. Mae Heddlu’r Alban a Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon hefyd yn gwneud cyfraniadau.
Cryfhau'r tîm ymchwilio
Erbyn hyn bydd yr ymchwiliad yn cael ei gefnogi gan dîm o 100 o swyddogion a staff medrus o bob rhan o'r Deyrnas Unedig i geisio sicrhau cyfiawnder i'r miloedd o bobl y mae sgandal Horizon Swyddfa'r Post yn effeithio arnyn nhw.
Mae Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC) a Gwasanaeth Heddlu’r Metropolitan wedi bod yn gweithio gyda Phrif Gwnstabliaid ledled y Deyrnas Unedig i adeiladu tîm ymchwilio cenedlaethol, sydd bellach ar waith. Ar hyn o bryd mae'r ymchwiliad yn adolygu dros 1.5 miliwn o ddogfennau, er nad yw'r wir raddfa yn hysbys eto.
Mae pedwar Tîm Ymchwilio Rhanbarthol (RITs) yn cynnwys heddluoedd ledled Cymru a Lloegr gyda Police Scotland, Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon a'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol hefyd yn gwneud cyfraniad.
Ar hyn o bryd mae Ymgyrch Olympos yn ymchwilio i droseddau tyngu anudon a gwyrdroi cwrs cyfiawnder ac nid yw'n ail ymchwiliad i’r holl erlyniadau yn erbyn is-bostfeistri. Mae'n ymchwiliad penodol a chymesur i droseddau posibl wrth erlyn yr is-bostfeistri a’r broses ehangach o gyflwyno system TG Horizon fel pe bai’n gadarn.
Mae'r tîm wedi lansio Porth Cyhoeddus Ymchwiliad Mawr (MIPP) lle gall unrhyw un gyflwyno gwybodaeth a dogfennau a chyn hir bydd yn cyhoeddi tudalen gwe penodol i ddarparu diweddariadau ac adnoddau ar yr ymchwiliad wrth iddo fynd yn ei flaen. Gallwch gyrchu'r MIPP yma: Porth Cyhoeddus.
Mae sesiynau briffio i is-bostfeistri a'r cyfryngau wedi’u darparu rhwng 5 – 11 Rhagfyr.
Mae Timau Ymchwilio Rhanbarthol (RITs) wedi'u sefydlu erbyn hyn. Mae ymchwilwyr profiadol wedi’u tynnu o heddluoedd ar draws:
Mae pedwar tîm wedi'u rhannu'n ddaearyddol rhwng y Gogledd, y De a'r Dwyrain.
Y Met sy’n cydlynu'r ymchwiliad cymhleth yma. Mae Uwch Swyddog Ymchwilio yn cyfarwyddo'r ymchwiliad, gan weithio'n agos gyda'r CPS.
Mae'r ymchwiliad yn cael ei redeg fel Ystafell Digwyddiad Mawr HOLMES. Mae'n defnyddio meddalwedd arbenigol i chwilio ac asesu'r swm helaeth o ddeunydd a gasglwyd.