Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Cynrychiolwyr etholedig yw Comisiynwyr Heddlu a Throseddu sy’n goruchwylio sut yr eir i’r afael â throseddu mewn ardal heddlu. Eu nod yw lleihau troseddu a sicrhau bod yr heddlu’n gweithredu’n effeithiol.
O dan Ddeddf Plismona a Throsedd 2017, gall Comisiynwyr Heddlu a Throseddu hefyd roi dadl dros gymryd rheolaeth am wasanaethau tân ac achub yn eu hardaloedd ac fe’u gelwir yn Gomisiynwyr Heddlu, Tân a Throseddu (PFCC). Bydd y manylion ar gael ar dudalennau’r heddluoedd unigol pan fo hyn yn berthnasol.
Mae trefniadau ar wahân ar gyfer Llundain a Manceinion Fwyaf. Yn Llundain, mae’r cyfrifoldebau hyn gan Swyddfa’r Maer ar gyfer Plismona a Throseddu (MOPAC). Y Maer sy’n arwain MOPAC yn Llundain. Ym Manceinion, Maer Manceinion Fwyaf sy’n gyfrifol am swyddogaethau’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu.
Mae MOPAC yn uniongyrchol atebol am berfformiad yr heddlu ym mhrifddinas Lloegr, gan bennu’r cyfeiriad strategol a dyrannu adnoddau ar draws Llundain yn ei Gynllun Heddlu a Throseddu. Mae gan MOPAC hefyd rôl bwysig i’w chwarae ar draws y system cyfiawnder troseddol. Fodd bynnag, fe fydd plismona gweithredol yn parhau’n gyfrifoldeb i Gomisiynydd yr Heddlu Metropolitanaidd a Chomisiynydd Dinas Llundain.
Mae plismona yn yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi ei ddatganoli i Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon. Yn yr Alban, mae’r Ysgrifennydd Cabinet dros Gyfiawnder yn gwasanaethu mewn rôl debyg ar gyfer Heddlu’r Alban. Yng Ngogledd Iwerddon, mae’r Gweinidog Cyfiawnder yn cyflawni rôl debyg ar gyfer Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon.
Mae Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yn gweithio gyda’r heddlu a phartneriaid eraill i leihau troseddu, rhoi llais ar y lefel uchaf i’r cyhoedd, dal heddluoedd i gyfrif a helpu i adfer ymddiriedaeth. Bydd eich Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn gwneud hyn drwy:
Gallwch ddarllen rhagor am Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu a dod o hyd i’r un sy’n gyfrifol am eich ardal chi drwy fynd i wefan Cymdeithas y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu (APCC).