Datganiad hygyrchedd ar gyfer www.police.uk
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.police.uk.
Cynhelir y wefan hon gan y platfform Single Online Home (SOH).
Rydym eisiau i bawb allu defnyddio’r wefan hon. Efallai y cewch well profiad os byddwch yn newid y gosodiadau ar eich cyfrifiadur fel eu bod yn addas ar gyfer eich anghenion. Mae’r wefan wedi cael ei hadeiladu fel y dylech allu gwneud y canlynol:
- newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
- chwyddo hyd at 400% heb i'r testun ollwng oddi ar y sgrin
- gwe-lywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig neu gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.
Mae AbilityNet yn rhoi cyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio
Pa mor hygyrch yw’r wefan hon
Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch.
- Gall rhai rhannau o’r tudalennau Perfformiad ac Eich Ardal fod yn ddryslyd i bobl sy’n defnyddio technolegau cynorthwyol neu’n llywio â bysellfwrdd. Mae hyn yn cynnwys data sydd wedi’i guddio’n weledol a ddefnyddir i arddangos siartiau a gyhoeddir weithiau i bobl sy’n defnyddio darllenwyr sgrin.
- Nid yw’n bosibl nodi’r lleoliad wrth riportio digwyddiad traffig ar y ffordd ar gyfer pobl sy’n defnyddio rhai technolegau cynorthwyol neu’n llywio gyda bysellfwrdd. Rydym yn argymell ffonio 101 os ydych yn cael anawsterau gyda’r broses ar-lein.
- Ar dudalennau canlyniadau chwilio efallai na fydd diben rhai o’r dolenni yn glir i ddefnyddwyr darllenwyr sgrin.
- Nid yw’r rhan fwyaf o ddogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch i ddarllenwyr sgrin. Fodd bynnag, gall defnyddwyr ofyn am fersiynau hygyrch. Nid yw’r dogfennau PDF y gellir dewis eu lawrlwytho sy’n cael eu creu ar ôl i ddefnyddwyr lenwi unrhyw rai o’n ffurflenni chwaith yn gwbl hygyrch i ddarllenwyr sgrin.
- Nid yw rhywfaint o’r deunydd sydd ar ein gwefan ar gael oni bai bod JavaScript wedi’i alluogi, er enghraifft ffurflenni, dod o hyd i orsaf heddlu a mapiau.
- Ar dudalennau sydd â dewisiadau briwsion bara mae'r ddolen Neidio i'r Prif Gynnwys yn mynd â chi i'r dewis hwn, yn hytrach na dechrau'r prif gynnwys sy'n dilyn yn syth ar ôl y briwsion bara.
- Mae rhai ffurflenni ar y wefan yn cynnwys penawdau ailadroddus gyda'r un cynnwys testun, a allai achosi dryswch i bobl sy'n llywio gan ddefnyddio technolegau cynorthwyol.
- Mae rhai problemau a all ei gwneud hi’n anodd defnyddio prif gynnwys llywio ar ddangoswyr bwrdd gwaith gyda lefelau chwyddo o 200% neu fwy. Mae hon yn broblem yn arbennig os nad ydych wedi derbyn na gwrthod cwcis a bod y faner Cwcis yn dal i ymddangos ar frig y dudalen.
Riportio problemau hygyrchedd gyda’r wefan hon
Os na allwch gyrchu rhywbeth sydd ei angen arnoch ar y wefan hon, dywedwch wrthym a byddwn yn gwneud yn siŵr y cewch yr hyn sydd ei angen arnoch mewn ffordd arall:
Ar-lein gan ddefnyddio ein ffurflen hygyrchedd.
Drwy e-bost: [email protected]
Er mwyn ein helpu i ddeall y broblem mor gyflym ag y gallwn, rhowch wybod i ni:
- beth yw cyfeiriad gwe neu deitl y dudalen y cawsoch y broblem gyda hi
- beth yw’r broblem
- pa gyfrifiadur a meddalwedd ydych chi’n ei ddefnyddio
Sylwer: mae’r blwch post hwn ar gyfer ymholiadau hygyrchedd yn unig. Os ydych am riportio troseddau neu ddigwyddiadau eraill, defnyddiwch ein gwasanaethau riportio trosedd ar-lein. Os oes trosedd yn cael ei chyflawni ar hyn o bryd neu os oes rhywun mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999.
Gweithdrefn Gorfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn fodlon gyda sut rydym ni’n ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Os ydych yng Ngogledd Iwerddon ac nad ydych yn fodlon gyda sut rydym ni’n ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Comisiwn Cydraddoldeb ar gyfer Gogledd Iwerddon sy’n gyfrifol orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’) yng Ngogledd Iwerddon.
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Police UK wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfedd
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2, oherwydd yr elfennau nad sy’n cydymffurfio a restrir isod.
Rhagor o wybodaeth am y safonau hygyrchedd technegol rydym yn eu dilyn.
Cynnwys anhygyrch
Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.
Dim yn cydymffurfio â rheoliadau hygyrchedd
- Nid yw’n bosibl nodi lleoliad digwyddiad traffig ar y ffordd gan ddefnyddio’r bysellfwrdd i lywio. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.1.1 Bysellfwrdd (Lefel A). Rydym yn gweithio i ddatrys hyn ond ar hyn o bryd nid oes gennym ddyddiad penodol ar gyfer pryd y bydd yr atgyweiriadau hyn yn cael eu cwblhau. Rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd wrth i ni weithio i wella ein gwasanaethau digidol.
- Efallai na fydd pwrpas y dolenni rhif tudalen yn y tudaleniad ar dudalennau Canlyniadau Chwilio yn glir o ddarllen testun y ddolen yn unig neu drwy ddarllen testun y ddolen gyda chyd-destun dolen sy’n gysylltiedig yn rhaglennol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf 2.4.4 Diben dolen (mewn cyd-destun) (Lefel A). Ein nod yw trwsio hyn erbyn diwedd mis Medi 2026.
- Ar dudalennau sydd â dewisiadau briwsion bara mae'r ddolen Neidio i'r Prif Gynnwys yn mynd â chi i'r dewis hwn, yn hytrach na dechrau'r prif gynnwys. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.1 Blociau Osgoi. Nid ydym yn bwriadu trwsio hyn.
- Mae rhai ffurflenni ar y wefan yn cynnwys penawdau ailadroddus gyda'r un cynnwys testun. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.6 Penawdau a Labeli. Nid ydym yn bwriadu trwsio hyn.
- Ar chwyddo o 200% a mwy, mae sawl problem gyda rhywfaint o gynnwys yn y Chwiliad a’r prif lywio ddim i’w weld mwyach. Nid yw hyn yn bodloni’r meini prawf llwyddiant 1.4.4 Newid Maint Testun, 1.4.10 Ail-lifo a 2.4.11 Ffocws Heb ei Guddio (Lleiafswm) (pob Lefel AA). Mae rhywfaint o gynnwys acordion yn defnyddio priodoleddau ARIA gyda gwerthoedd anghywir. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 4.1.2 Enw, Gwerth, Rôl. Ein nod yw datrys y problemau hyn erbyn mis Medi 2026.
Yn y tudalennau Perfformiad:
- Cyhoeddir rhywfaint o gynnwys sydd wedi’i guddio’n weledol i bobl sy’n defnyddio darllenwyr sgrin. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd (Lefel A).
- Nid oes gan rai elfennau rhyngweithiol arddulliau ffocws gweladwy. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.7 Ffocws Gweladwy (Lefel AA).
- Nid oes gan rai cwymplenni labeli sydd wedi’u cysylltu’n rhaglennol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth (Lefel A).
- Pan fydd cynnwys tudalen yn diweddaru ar ôl dewis yr opsiwn Gweld fel dewis yn y rhestr, cyhoeddir cynnwys ychwanegol i ddarllenwyr sgrin, yn ogystal â’r cynnwys newydd a ddangosir. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 4.1.3 Negeseuon Statws (Lefel AA).
Ffurflenni
Rydym yn ymwybodol bod cyfyngiadau hygyrchedd ar rai o’n ffurflenni gwe ar hyn o bryd. Gall y problemau hyn gynnwys labeli meysydd yn cael eu dyblygu neu’n aneglur neu negeseuon gwall aneglur.
Rydym yn disgwyl i bob ffurflen we graidd fod yn gwbl hygyrch erbyn diwedd mis Rhagfyr 2026.
Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Rydym yn profi’n rheolaidd pa mor hygyrch yw’r wefan hon gan ddefnyddio:
- profi awtomataidd - y ffordd gyflymaf i ganfod rhwng 20% a 50% o’r problemau posibl
- profi ymarferol - defnyddio technoleg gynorthwyol i brofi’r wefan gan ganolbwyntio’n arbennig ar fannau sydd â phroblemau hysbys
- profi gan ddefnyddwyr - gofyn i ddefnyddwyr sydd ag anghenion o ran hygyrchedd i brofi’r wefan, a dysgu gan eu hadborth
Rydym hefyd yn monitro a phrofi’n barhaus hygyrchedd ein gwefan gan ddefnyddio’r platfform Siteimprove.ai platform ac wedi gwneud trwsio a gwella hygyrchedd y wefan yn rhan o’n gwaith bob dydd.
Paratoad y datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 20 Medi 2019. Fe’i hadolygwyd ddiwethaf ar 7 Mai 2026.
Cynhaliwyd archwiliad allanol llawn ar y wefan hon ym mis Mai 2019, a chynhaliwyd archwiliadau Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth mwy cyfyngedig ym mis Hydref 2022 a mis Mai 2026.
Gwnaethom brofi’r gwasanaeth yn seiliedig ar allu defnyddiwr i gwblhau siwrneiau allweddol. Profwyd pob rhan o’r siwrneiau a ddewiswyd, yn cynnwys dogfennau. Dewiswyd siwrneiau ar nifer o ffactorau yn cynnwys ystadegau defnydd, asesiadau risg a phynciau.