Y broses cyfiawnder troseddol
Beth sy’n digwydd wedi i drosedd gael ei riportio?
Can gaiff trosedd ei riportio, bydd yr heddlu’n penderfynu a allant ymchwilio’r achos.
Gall ymchwiliadau gymryd amser hir ac ni fydd rhai achosion byth yn cael eu datrys.
Efallai na fyddant yn gallu dal y troseddwr, neu efallai na fydd digon o dystiolaeth i gyhuddo rhywun â’r drosedd.
Sut mae’r heddlu’n delio â mân droseddau?
Gall yr heddlu benderfynu delio â mân drosedd drwy un o’r dulliau canlynol:
- cerydd neu rybudd
- dirwy yr heddlu, a elwir yn hysbysiad cosb
- datrysiad cymunedol
Weithiau bydd y dioddefwr yn cytuno i dderbyn ymddiheuriad os yw’n fân ddigwyddiad.
Gall yr heddlu hefyd benderfynu cyhuddo rhywun gyda mân drosedd.
Dysgu am rybuddion yr heddlu am fân droseddau
Gellir hefyd defnyddio dulliau Cyfiawnder Adferol mewn datrysiadau cymunedol.
Mae Cyfiawnder Adferol (CA) yn rhoi’r cyfle i ddioddefwyr gael eu clywed a rhoi eu barn mewn datrys troseddau, yn cynnwys cytuno ar weithgareddau adferol ar gyfer y troseddwr.
Mae nifer o wahanol fathau a lefelau o CA a gellir eu defnyddio y tu allan i’r llysoedd, yn ychwanegol at euogfarn, neu fel rhan o ddedfryd.
Gall CA fod yn fodd o ddod â’r mater i ben a galluogi’r dioddefwr i symud ymlaen.
Mae CA hefyd yn rhoi cyfle i droseddwyr wynebu canlyniadau eu gweithredoedd a’r effaith y maent wedi ei gael ar eraill.
Beth sy’n digwydd pan gyhuddir rhywun â throsedd?
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cynghori’r heddlu ar achosion ar gyfer erlyniad posibl ac yn adolygu achosion a gyflwynir gan yr heddlu.
Mae’n penderfynu gyda beth y dylid cyhuddo diffynyddion mewn achosion mwy difrifol neu gymhleth.
Seilir y penderfyniad i erlyn neu beidio ar ddau brawf; a oes digon o dystiolaeth i brofi’r achos, ac a yw o fudd i’r cyhoedd i ddwyn yr achos i’r llys.
Beth sy’n digwydd yn y llys?
Bydd y llys yn cynnal gwrandawiad lle bydd ynadon neu reithgor yn penderfynu a yw rhywun yn euog o’r drosedd.
Ymdrinnir â’r rhan fwyaf o achosion yn y llys ynadon.
Caiff y troseddau mwyaf difrifol (megis llofruddiaeth neu ladrad) eu trosglwyddo i lys uwch, a elwir yn Llys y Goron.
Sut y dedfrydir troseddwyr?
Bydd ynadon (yn y llys ynadon) neu farnwr (yn Llys y Goron) yn penderfynu sut y dedfrydir troseddwyr.
Rhaid i’r ynadon neu’r barnwr ystyried yr angen i:
- Gosbi’r troseddwr
- Diogelu’r cyhoedd
- Newid ymddygiad y troseddwr
- Gwneud i’r troseddwr wneud yn iawn am ei drosedd
- Lleihau troseddu yn y dyfodol
Beth yw’r gwahanol fathau o ddedfrydau llys?
Pan fydd llys yn canfod rhywun yn euog o drosedd, y dedfrydau mwyaf cyffredin yw:
- Dirwy llys
- Dedfryd gymunedol - e.e. cyrffyw, gwaith di-dâl neu fynychu rhaglen triniaeth am gyffuriau
- Dedfryd o garchar
- Dedfryd o garchar gohiriedig
Mewn dedfryd o garchar gohiriedig, bydd y troseddwr yn treulio ei ddedfryd yn y gymuned, ond os bydd yn cyflawni trosedd arall caiff fel arfer ei anfon i’r carchar.