Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Mae’r Heddlu yn dod yn rhan mewn achos o fyrgleriaeth ddomestig cyn gynted ag y byddwch yn ffonio.
Os yw’r fyrgleriaeth wrthi’n digwydd ffoniwch 999 a byddwn yn anfon swyddog ar unwaith. Os yw eisoes wedi digwydd ffoniwch 101. Daw swyddogion i’ch tŷ cyn gynted â phosibl.
Os yw’r fyrgleriaeth wrthi’n digwydd yna anfonir gwahanol lefelau o ymateb yn dibynnu ar yr amgylchiadau ac argaeledd. Byddwn yn cynnal ymholiadau drws i ddrws er mwyn casglu gwybodaeth yn ogystal ag edrych ar ffilmiau neu luniau teledu cylch cyfyng o’r ardal gyfagos.
Bydd swyddogion yn chwilio am dystiolaeth, megis olion bysedd neu olion traed ac os deuir o hyd i rai bydd Ymchwilydd Golygfa Drosedd yn mynychu.
Os yw byrgleriaeth eisoes wedi digwydd byddwn yn cynnal ymholiadau drws i ddrws er mwyn casglu gwybodaeth yn ogystal ag edrych ar ffilmiau neu luniau teledu cylch cyfyng o’r ardal gyfagos.
Bydd swyddogion yn chwilio am dystiolaeth, megis olion bysedd neu olion traed ac os deuir o hyd i rai bydd Ymchwilydd Safle Trosedd yn mynychu.
Rhoddir yr olion bysedd yn ein cronfa ddata genedlaethol er mwyn chwilio am rai sy’n cyfateb. Os deuir o hyd o rai sy’n cyfateb bydd swyddogion yn chwilio am yr un dan amheuaeth ac yn ei arestio.
Ar ôl cymryd datganiad bydd swyddogion yn gadael manylion cyswllt a gofyn i chi pa mor aml yr ydych am i ni gysylltu â chi i adrodd am unrhyw ddatblygiadau. Yna trosglwyddir yr ymchwiliad o ofal y swyddogion ymatebol i’r Uned Fyrgleriaeth.
Os deuir o hyd i luniau teledu cylch cyfyng clir, cânt eu rhannu o fewn y llu heddlu ac weithiau fe’u rhyddheir i’r cyfryngau. Caiff proffiliau ffotoffit eu creu cyn belled bod disgrifiad da o’r un dan amheuaeth. Os bydd y cyhoedd yn adnabod yr un dan amheuaeth, dylent gysylltu â’r heddlu ar unwaith.
Os na ddeuir o hyd i dystiolaeth fforensig, cymerir datganiad, bydd swyddogion yn gadael manylion cyswllt a gofyn i chi pa mor aml yr ydych am i ni gysylltu â chi i adrodd am unrhyw ddatblygiadau. Yna trosglwyddir yr ymchwiliad o ofal y swyddogion ymatebol i’r Uned Fyrgleriaeth.
Os deuir o hyd i luniau teledu cylch cyfyng clir, cânt eu rhannu o fewn y llu heddlu ac weithiau fe’u rhyddheir i’r cyfryngau. Caiff proffiliau ffotoffit eu creu cyn belled bod disgrifiad da o’r un dan amheuaeth.
Os bydd y cyhoedd yn adnabod yr un dan amheuaeth, dylent gysylltu â’r heddlu ar unwaith.
Gallwch riportio gwybodaeth yn ddienw drwy Taclo’r Taclau neu drwy gysylltu â’r heddlu’n uniongyrchol ar 101.
Ni allwn bwysleisio’n ddigon cryf pa mor bwysig yw hi bod tystion yn cysylltu er mwyn ein helpu i gasglu cymaint o dystiolaeth â phosibl. Yn aml y rheswm bod nifer o fyrgleriaethau yn arwain at ‘ddim gweithredu pellach gan yr heddlu’ ar ôl ymchwilio iddynt yw diffyg tystiolaeth. Fodd bynnag, os ceir tystiolaeth newydd gellir ailagor yr achos.
Os adnabyddir yr un dan amheuaeth byddwn yn chwilio amdanynt ac yn eu harestio. Eir â hwy i’r ddalfa a byddwn yn eu cyfweld a’u holi ynglŷn â’r dystiolaeth yr ydym wedi’i chasglu.
Efallai y gofynnir i’r rheini dan amheuaeth i gymryd rhan mewn VIPER (Recordiad Electronig Rhes Adnabod Fideo).
Os adnabyddir yr un dan amheuaeth byddwn yn chwilio amdanynt ac yn eu harestio. Eir â hwy i’r ddalfa a byddwn yn eu cyfweld a’u holi ynglŷn â’r dystiolaeth yr ydym wedi’i chasglu.
Efallai y gofynnir i’r rheini dan amheuaeth i gymryd rhan mewn VIPER (Recordiad Electronig Rhes Adnabod Fideo).
Yn ystod VIPER dangosir proffil fideo o’r un dan amheuaeth a gofynnir i’r tyst adnabod yr un dan amheuaeth o blith o leiaf 11 delwedd arall.
Hyd yn oed wedi cael adnabyddiaeth gadarnhaol o’r un dan amheuaeth gall ef neu hi herio’r adnabyddiaeth a darparu alibi. Os felly, naill ai cedwir yr un dan amheuaeth yn y ddalfa neu caiff ei ryddhau ar fechnïaeth tra gwneir ymholiadau i gadarnhau’r alibi neu adolygu’r dystiolaeth.
Unwaith bod y dystiolaeth wedi’i chasglu cyflwynir y ffeiliau i gynrychiolwyr cyfreithiol Gwasanaeth Erlyn y Goron (GEG). Byddant hwy’n penderfynu a oes gobaith realistig o euogfarniad. Os oes gennym dystiolaeth ddigon da ceisir penderfyniad cyflym gan GEG.
Oddi yma gellir gweithredu mewn un o ddwy ffordd.
Unwaith bod y dystiolaeth wedi’i chasglu cyflwynir y ffeiliau i gynrychiolwyr cyfreithiol Gwasanaeth Erlyn y Goron (GEG). Byddant hwy’n penderfynu a oes gobaith realistig o euogfarniad. Os oes gennym dystiolaeth ddigon da ceisir penderfyniad cyflym gan GEG.
Oddi yma gellir gweithredu mewn un o ddwy ffordd.
Os bydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn penderfynu y dylai’r achos fynd i’r llys, cyhuddir yr un dan amheuaeth a phennir dyddiad llys. Os oes perygl y bydd rhagor o droseddau’n cael eu cyflawni neu na fydd yr un dan amheuaeth yn mynychu’r gwrandawiad llys, gall gael ei anfon i’r carchar ar remand.
Os bydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn penderfynu na ddylai’r achos fynd i’r llys, caiff yr un dan amheuaeth ei ryddhau heb gyhuddiad neu ei ryddhau ar fechnïaeth tra bydd yr heddlu’n cynnal ymholiadau pellach.
Nawr eich bod wedi darllen beth sy’n rhan o ymchwiliad i fyrgleriaeth, gwyddoch y rhan hollbwysig y gallwch chi ei chwarae drwy roi unrhyw wybodaeth.