Rydym yn casglu gwybodaeth am ddefnydd y wefan er mwyn helpu i ddatblygu a gwella gwasanaethau i’r cyhoedd, ac i ddiogelu uniondeb ein systemau rhag defnyddwyr maleisus. Ar hyn o bryd mae’r wybodaeth hon yn cynnwys:
- Gwybodaeth ystadegol a geir gan ddefnyddio Google Analytics. Ni ellir defnyddio unrhyw wybodaeth a gesglir i adnabod defnyddwyr unigol. I gael rhagor o wybodaeth am sut mae hyn yn effeithio ar eich preifatrwydd ewch i Ganolfan Preifatrwydd Google Analytics. Os nad ydych eisiau anfon gwybodaeth at Google Analytics, mae ychwanegyn porwr optio allan hefyd ar gael neu gallwch ffurfweddu eich porwr er mwyn gadael i chi ddewis pa gwcis, os o gwbl, a ganiateir i gael eu creu.
- Gwybodaeth a geir gan ein system rheoli cynnwys i archwilio beth mae pobl yn chwilio amdano, beth y maent yn dod o hyd iddo ac achlysuron lle na ddychwelir canlyniadau. Ni ellir defnyddio gwybodaeth a gesglir i adnabod defnyddwyr unigol.
- Gwybodaeth a ddarperir gan ddefnyddwyr drwy ffurflenni ar-lein; fe’i delir yn ein canolfannau data diogel yn y DU ac fe’i cedwir yn unol â Deddf Diogelu Data 2018, Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (UE) 2016/679, a’n polisïau cadw.
- Eich cyfeiriad IP a manylion pa borwr rydych chi’n ei ddefnyddio, yr ydym yn eu cofnodi pan fyddwch yn defnyddio ein ffurflenni ar-lein. Efallai y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon ynghyd ag unrhyw wybodaeth a roddir ar y ffurflen i helpu ymchwiliadau i gamddefnydd ein gwasanaeth, ac er mwyn atal neu ddatrys troseddau, neu i ddiogelu bywyd.
- Eich cyfeiriad IP, a ddefnyddir hefyd i ganfod eich lleoliad os ydych chi’n defnyddio’r nodwedd geoleoliad ar ein gwefan. Rydym yn defnyddio hwn dim ond i ddangos cynnwys perthnasol i chi, ac nid ydym y storio nac yn rhannu hwn gydag unrhyw drydydd parti.
Nid ydym yn ceisio monitro ymddygiad pori defnyddwyr unigol drwy unrhyw fodd cudd.
Cwcis
Gallwch ddarllen am y cwcis rydym yn eu defnyddio, a sut cânt eu defnyddio ar y wefan hon, yma.