Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Dysgwch sut y gallwch chi gyfrannu at wella diogelwch y cyhoedd a’r broses cyfiawnder troseddol drwy weithio neu wirfoddoli ym maes plismona.
Gyrfaoedd
Ewch i wefan y Coleg Plismona i weld yr holl gyfleoedd sydd ar gael ym maes plismona.
Os ydych chi’n chwilio am gyfleodd gyda llu penodol, gallwch ddod o hyd i wefan y llu hwnnw gan ddefnyddio’r canfyddwr isod.
Darganfyddwr heddlu lleol
Rhowch god post, cyfeiriad stryd neu ardal
Gwirfoddoli
Y gwahanol rolau neu gyfleoedd gwirfoddoli y gallwch eu cymryd wrth blismona:
Llu o wirfoddolwyr wedi’u hyfforddi sy’n gweithio gydag, ac yn cefnogi, eu heddlu lleol yw’r Heddlu Gwirfoddol. Mae’r ‘Specials’, fel y caiff cwnstabliaid gwirfoddol eu hadnabod, yn dod o bob cefndir gwaith - maent yn athrawon, gyrwyr tacsi, cyfrifyddion ac ysgrifenyddion, neu unrhyw nifer o yrfaoedd eraill - ac maent i gyd yn gwirfoddoli i’w heddlu lleol am o leiaf bedair awr yr wythnos, gan greu cysylltiad hollbwysig rhwng yr heddlu rheolaidd (llawn amser) a’r gymuned leol.
Unwaith y bydd cwnstabliaid gwirfoddol wedi cwblhau eu hyfforddiant, mae ganddynt yr un pwerau â swyddogion rheolaidd ac maent yn gwisgo lifrai tebyg.
Gwirfoddolwyr o blith dinasyddion sy’n rhoi o’u hamser i gyflawni tasgau sy’n ategu’r dyletswyddau a wneir gan swyddogion a staff yr heddlu yw Gwirfoddolwyr Cymorth yr Heddlu. Mae hyn yn helpu i ryddhau swyddogion a staff i gyflawni dyletswyddau gweithredol allweddol.
Mae’r rolau gwirfoddoli yn amrywio o ddarparu gwasanaethau cownter blaen a gwaith gweinyddu i ddilyn i fyny ar adroddiadau troseddau a digwyddiadau gydag aelodau’r cyhoedd.
Mae’r rolau gwirfoddoli hyn yn rhoi budd sylweddol i’r Gwasanaeth Heddlu ac i gymunedau lleol.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth gan eich llu lleol.
Mae’r Rhwydwaith Gwarchod Cymdogaeth a Chartrefi yn dwyn cymdogion ynghyd i greu cymunedau cryf a chyfeillgar lle mae troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol efallai’n llai tebygol o ddigwydd.
Mae’r Rhwydwaith yn rhoi i bobl o’r un bryd yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i gyfarfod, dechrau cynlluniau, rhannu gwybodaeth a rhagor.
Mae dros 170,000 o gynlluniau Gwarchod Cymdogaeth a Chartrefi ledled Cymru a Lloegr.
Elusen annibynnol sy’n cynorthwyo i ddod o hyd i droseddwyr a datrys troseddau yw Crimestoppers.
Mae’n darparu rhif ffôn 24/7 y gall pobl ei ffonio’n ddienw i roi gwybodaeth am droseddau; neu gall pobl anfon gwybodaeth yn ddienw drwy wefan Crimestoppers.
Cefnogir Crimestoppers gan waith caled a doniau dros 500 o wirfoddolwyr.
Mae Bugeiliaid Stryd yn darparu ymateb rhyngenwadol gan Eglwysi i broblemau trefol, gan ymgysylltu â phobl ar y stryd er mwyn gofalu, gwrando a sgwrsio.
Arweinydd/gweinidog neu aelod Eglwys yw Gweinidog Stryd sy’n poeni am gymdeithas - yn enwedig pobl ifanc sy’n teimlo eu bod wedi eu hallgau ac wedi’u hymyleiddio - ac sy’n barod i ymgysylltu â phobl.
Mae Caplaniaid yr Heddlu yn darparu gofal i unigolion o fewn pob llu. Maent hefyd yn gofalu am y sefydliad, gan weithredu fel cyfeillion beirniadol o fewn y prosesau gwneud penderfyniadau.
Daw’r Caplaniaid o bob ffydd. Gallant fod yn wirfoddolwyr sy’n rhoi isafswm o ddwy awr yr wythnos.
Elusen genedlaethol sy’n rhoi cymorth am ddim a chyfrinachol i ddioddefwyr troseddau, tystion, eu teuluoedd, ffrindiau ac unrhyw un arall yr effeithir arnynt ledled Cymru a Lloegr yw Cymorth i Ddioddefwr. Mae’r elusen hefyd yn llais cenedlaethol dros ddioddefwyr a thystion ac yn ymgyrchu dros newid.
Mae Cymorth i Ddioddefwyr wedi ei adeiladu ar ymroddiad ei wirfoddolwyr. Mae pedair gwaith yn fwy o wirfoddolwyr nag sydd o gyflogeion.
Cynllun i gynorthwyo pobl i leihau traffig yn goryrru drwy eu cymuned yw Gwylio Cyflymder Cymunedol.
Mae’r cynllun yn galluogi gwirfoddolwyr i weithio yn eu cymuned a gyda’r heddlu i godi ymwybyddiaeth o beryglon goryrru ac i gynorthwyo i reoli’r broblem yn lleol.
Grwpiau o gynrychiolwyr cymunedol sy’n cyfarfod â’r heddlu yn rheolaidd yw Grwpiau Cynghori Annibynnol. Rhydd hyn gyfle i roi adborth i’r heddlu o’r gymuned ac i gyflwyno safbwynt y gymuned.
Term a ddefnyddir i ddisgrifio’r miloedd o bobl ledled y DU sy’n rhoi o’u hamser i gefnogi’r heddlu yw Dinasyddion mewn Plismona.
Mae rôl Dinasyddion mewn Plismona yn hollbwysig – mae gwirfoddolwyr yn cynyddu gallu ein heddluoedd, gan ddod â sgiliau gwerthfawr ac arbenigedd i dimau’r heddlu, a chreu cysylltiadau agosach a mwy effeithiol gyda’n cymunedau.