Hawlfraint
Mae'r holl ddeunydd ar y wefan hon yn destun hawlfraint. Oni nodir yn benodol bod deunydd ar gael i'w ddefnyddio'n gyffredinol yna ni ddylid ei gopïo na'i ail-ddefnyddio heb ganiatâd penodol deiliad yr hawlfraint neu ddeiliaid hawlfraint eraill lle defnyddir deunydd o dan drwydded.
Yr unig eithriadau yw'r rhai a ganiateir o dan gyfraith hawlfraint, lle gellir defnyddio deunydd heb ganiatâd na thaliad am:
ymchwil neu astudiaeth breifat
beirniadaeth neu adolygiad cyfreithlon
addysg (cyn belled nad yw'n cynnwys sawl copi)
mewn achos cyfreithiol
Mae hyn yn amodol ar atgynhyrchu'r deunydd yn gywir ac na chaiff ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Rhaid cyfeirio'n briodol at ffynhonnell y deunydd.
Mae logo police.uk wedi'i gofrestru yn The Patent Office fel nod masnach.
Mae brand police.uk a'r cynnwys ar police.uk yn eiddo i MOPAC.
Ymwadiad
Er ein bod yn ceisio sicrhau bod y wybodaeth ar y wefan hon yn gywir, fe'i darperir ar sail 'fel y mae', heb warantau o unrhyw fath, ac ni roddir gwarant, mynegol nac ymhlyg, o ran cywirdeb na chyflawnrwydd.
Nid yw MOPAC yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw wall neu anwaith. Ni fydd MOPAC yn atebol am unrhyw hawliadau neu golledion trydydd parti o unrhyw natur gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, golli elw, iawndal uniongyrchol, anuniongyrchol, arbennig neu ganlyniadol sy'n deillio o ddefnydd neu anallu trydydd parti i ddefnyddio'r wefan hon.
Nid yw'r wybodaeth ar y wefan hon yn gyfystyr â chyngor cyfreithiol na chyngor proffesiynol arall.
Dolenni
Nid oes angen i chi ofyn am ganiatâd i gysylltu ag unrhyw dudalennau ar y wefan hon. Rhaid i chi beidio ag agor ein tudalennau o fewn ffrâm neu unrhyw strwythur arall a allai arwain at ganfod cynnwys police.uk fel rhan o wefan arall.
Nid yw MOPAC yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am y cynnwys ar unrhyw wefan y mae dolen hyperdestun o'r wefan hon yn bodoli. Darperir y dolenni 'fel y mae' heb unrhyw warant, datganedig nac ymhlyg, am y wybodaeth a ddarperir ynddynt.