Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Mae Ymgyrch Olympos yn ymchwilio i droseddau tyngu anudon a gwyrdroi cwrs cyfiawnder mewn perthynas â'r erlyniadau.
Mae'r erlyniadau hyn a'r is-bostfeistri yr effeithir arnyn nhw yn rhychwantu pob heddlu. Mae yna bobl dan amheuaeth ar draws y wlad, felly mae yna effaith genedlaethol glir.
Nid ymchwiliad i'r erlyniadau anghywir hyn yw Ymgyrch Olympos. Er bod yr is-bostfeistri wedi dioddef oherwydd tystiolaeth ddiffygiol neu goll, troseddau yn erbyn y wladwriaeth yw’r troseddau sy'n destun ymchwiliad.
Mae'r achosion a ddygwyd yn erbyn is-bostfeistri yn rhan o'r dystiolaeth ar gyfer gwyrdroi cwrs cyfiawnder, ond does dim angen i bob achos gael ei adolygu.
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) wedi adolygu’r strategaeth yma ac wedi cytuno arni. Mae’r CPS o’r farn bod yr ymchwiliad:
Bydd hyn yn gofyn gwaith craffu parhaus i atal y rhychwant rhag mynd yn rhy fawr ac annelwig.
Rhaid i’r ymwneud parhaus â’r dioddefwyr a’r rhanddeiliaid sicrhau:
O safbwynt yr heddlu, mae hyn yn golygu bod pob heddlu yn cyfrannu at yr ymchwiliad yn hytrach nag ymchwilio i droseddau sy'n gysylltiedig â nhw yn ddaearyddol: nid dyna'r strategaeth.
Ar hyn o bryd mae unrhyw un sydd o dan amheuaeth yn debygol o berthyn yn fras i'r grwpiau canlynol:
Gall y nifer amrywio gan ddibynnu ar y deunydd a gesglir yn y dyfodol a chasgliad yr ymchwiliad cyhoeddus.