Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Ar hyn o bryd mae'r ymchwiliad cyhoeddus wedi gwrando’r holl dystiolaeth lafar y mae'n bwriadu ei galw. Bydd yn ailddechrau ar 16 a 17 Rhagfyr ar gyfer cyflwyniadau llafar olaf y Cyfranogwyr Craidd.
Mae hyn yn rhedeg tan ddiwedd 2024 ac wedyn mae'r tîm ymchwilio yn cael gweld llawer iawn o weddill y deunydd.
Mae gennyn ni’r dulliau technegol i symleiddio’r broses o adnabod ac adennill tystiolaeth allweddol ymhlith yr holl ddata a deunydd swmp sydd yn ein meddiant. Gall y broses ymchwilio a'r adolygiad arwain at gyfweliadau gydag unigolion allweddol. Mae hyn yn dibynnu ar yr hyn y mae’n rhesymol ei gredu o ran lefel eu cyfranogiad troseddol. Y troseddau dan sylw yw'r rhai sydd wedi’u cyflawni yn erbyn y wladwriaeth neu'r system cyfiawnder troseddol, fel tyngu anudon a gwyrdroi cwrs cyfiawnder. Fydd yr erlyniadau unigol a ddygwyd gan Swyddfa'r Post ddim yn cael eu hailymchwilio.
Mae nifer o gyfweliadau dan rybudd eisoes wedi digwydd ac mae'n debygol iawn y bydd rhagor yn cael eu trefnu maes o law. Rhaid casglu tystiolaeth yn unol â’r rheolau a’r gweithdrefnau cyfreithiol sy'n llywodraethu ymchwiliadau troseddol o'r fath. Mae hon yn broses arwyddocaol a chymhleth.
Rydyn ni wedi agor 'Ystafell Digwyddiadau Mawr' gan ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf i helpu'r ymchwiliad. Mae gennyn ni hefyd dîm ymchwilio cenedlaethol sydd wedi’i ffurfio gan y canlynol:
Mae'r rhain wedi'u rhannu'n dimau rhanbarthol i roi sylw ar draws y Deyrnas Unedig, nid dim ond Cymru a Lloegr ond hefyd Police Scotland a Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon. Mae’r oruchwyliaeth strategol yn cael ei darparu gan 'Gomander Aur' sy'n sicrhau bod yr ymchwiliad yn rhedeg yn effeithlon ac yn effeithiol.
Rydym yn deall ac yn cydnabod yn llawn fod yna bobl sydd wedi dioddef yn fawr o ganlyniad i gamau a gymerwyd yn eu herbyn gan Swyddfa'r Post y tu ôl i'n prosesau ymchwilio. Wnawn ni byth golli golwg ar hyn, gan eu trin fel 'dioddefwyr' o fewn egwyddorion y Cod Ymarfer Dioddefwyr. Gallai rhai fod yn amlycach na’i gilydd yn ein hymchwiliad os bydd mater yr oedden nhw’n rhan ohono yn dod yn rhan o erlyniad.
Hoffem eich sicrhau ein bod yn ceisio’n gorau glas i gadw mewn cysylltiad ar ryw ffurf neu'i gilydd gyda phawb rydyn ni’n credu eu bod nhw wedi dioddef yn sgil ymyriadau anghywir gan Swyddfa'r Post.
Mae'r wefan yma yn un ffordd o gadw mewn cysylltiad. Mae hi hefyd yn fodd ichi gysylltu â ni.