Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Mae datganiad y Comander Aur ar gael ar ffurf fideo a thrawsgrifiad.
Ymgyrch Olympos yw'r ymchwiliad troseddol i sgandal TG Horizon Swyddfa'r Post ac mae'n canolbwyntio ar droseddau tyngu anudon a gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
Fi yw'r Comander Aur a fi sy’n gyffredinol gyfrifol am yr ymchwiliad. Fy rôl i yw cytuno ar y strategaeth ymchwilio a sicrhau ei bod yn cael ei chefnogi â'r adnoddau, y cyllid a’r cymorth cywir ar draws yr heddluoedd, ynghyd â ddatrys unrhyw faterion a allai godi weithiau ar hyd y ffordd. Rwy'n cael fy nghefnogi gan Uwch Swyddog Ymchwilio sy'n gosod y strategaeth ymchwilio honno a thîm o ymchwilwyr o heddluoedd ledled y wlad sy'n helpu i'w chyflawni.
Mae gan y tîm berthynas waith agos iawn â Gwasanaeth Erlyn y Goron sydd wedi bod yn darparu cyngor ymchwiliol cynnar parhaus drwyddi draw. Rwy’n gwybod bod effaith ymdriniaeth Swyddfa'r Post â system TG Horizon wedi bod yn eang ac yn ddinistriol, gan effeithio ar gannoedd o is-bostfeistri.
Ers mis Ionawr 2020, dechreuodd ymchwilwyr edrych ar yr hyn sydd bellach wedi dod yn filoedd o ddogfennau, a hynny â llaw a thrwy gymorth meddalwedd arbenigol. Mae'n bwysig pwysleisio bod yr ymchwiliad bob amser wedi bod yn rhedeg ochr yn ochr ac yn annibynnol ar yr ymchwiliad cyhoeddus. Er hynny, bydd y deunydd a gynhyrchir yn yr ymchwiliad cyhoeddus hwnnw a'i adroddiad terfynol yn allweddol o ran unrhyw dystiolaeth y mae'n ei darparu ar gyfer yr ymchwiliad troseddol.
O gofio maint a chymhlethdod yr ymchwiliad, y cam nesaf nawr yw ymdrech blismona genedlaethol gytûn, wedi'i chydlynu gan y Met ac yn cael ei chyflawni gan dimau ymchwilio rhanbarthol ychwanegol ledled y wlad. Mae gan y tîm yma ryw 100 o ymchwilwyr, sy’n gweithio dan gyfarwyddyd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, gan archwilio'r dystiolaeth sydd ar gael, yn unol â'r strategaeth ymchwilio.
Mae'n bwysig bod yn glir nad ydyn ni’n ailymchwilio i bob camweinyddiad cyfiawnder, ond yn hytrach yn edrych ar weithredoedd unigolion ar draws nifer o achosion - troseddol a sifil. Mae'r unigolion hyn yn cynnwys ymchwilwyr ac erlynwyr Swyddfa'r Post, gweithrediaeth Swyddfa'r Post, ynghyd â staff a swyddogion gweithredol o fewn Fujitsu. Rydyn ni wedi bod yn meddwl lawer am sut i gyfleu diweddariadau allweddol i grŵp mor fawr o bobl y mae Horizon yn effeithio arnynt, ynghyd â’r diddordeb cyhoeddus dealladwy yn yr achos yma.
Y wefan yma yw'r prif ryngwyneb lle gall y tîm ymchwilio ddarparu rhai diweddariadau cyffredinol ac rwy'n siŵr y byddwch yn deall na fyddwn ni’n darparu enwau'r rhai rydyn ni’n ymchwilio iddyn nhw a’n bod ni’n gyfyngedig yn yr hyn y gallwn ei ddweud yn ystod yr ymchwiliad. Er hynny, gobeithio y bydd yn fuddiol darparu diweddariadau cyffredinol o bryd i'w gilydd drwy ddefnyddio'r wefan, a fydd hefyd yn cynnwys manylion ar sut i gysylltu â'r tîm ymchwilio.
Hoffwn sicrhau pob un ohonoch sydd wedi’i effeithio nad ydyn ni’n bychanu difrifoldeb y dasg dan sylw ac er y bydd yn cymryd peth amser, rydyn ni’n benderfynol o gynnal ymchwiliad llawn a hynny yn annibynnol, yn gywir ac yn onest.
Diolch yn fawr.
Comander Stephen Clayman