Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Ymgyrch Olympos yw’r ymchwiliad troseddol i sgandal Horizon Swyddfa’r Post. Mae’n canolbwyntio ar droseddau anudon a gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
Mae sgandal Horizon Swyddfa'r Post yn cael ei ystyried fel y camweinyddiad cyfiawnder mwyaf eang yn hanes cyfreithiol Prydain. Roedd yn cynnwys erlyn dros 700 o is-bostfeistri ar gam rhwng 2001 a 2017.
Dechreuodd Ymgyrch Olympos ym mis Ionawr 2020, ar ôl i bryderon gael eu codi ynglŷn ag ymddygiad y canlynol:
Honnir bod Swyddfa'r Post wedi defnyddio anghysondebau a gofnodwyd ar system Horizon yn fwriadol i dwyn achosion yn erbyn is-bostfeistri. Cyhuddwyd yr is-bostfeistri yma o ddwyn a chyfrifyddu ffug.
Rhwng 2000 a 2017, cychwynnodd Swyddfa'r Post 900 o erlyniadau preifat, a arweiniodd at dros 700 o euogfarnau. Effeithiodd diffygion Horizon ar 3,500 o is-bostfeistri. O'r rhain, cafodd 736 eu herlyn. Wynebodd eraill gyfuniad o hawliadau sifil a therfynu contractau.
Hyd yn hyn, mae 3,000 o is-bostfeistri wedi ymrestru ar un o dri chynllun iawndal a gefnogir gan y llywodraeth ac sydd ar eu hanner.
Ymchwiliad plismona ar y cyd yw hwn rhwng Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC) a'r Gwasanaeth Heddlu Metropolitanaidd, gyda chyfranogiad gan holl heddluoedd y DU.