Stamp amser presennol: 15/07/26 15:05:55
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

puk-logo

  • Cysylltu â ni
  • Cyngor ac atal troseddau
  • Yn ôl i Cymorth

    • Cymorth i blant a phobl ifanc
    • Cymorth i droseddwyr a’u teuluoedd
    • Cymorth i ddioddefwyr a thystion
    • Cymorth i fusnesau
    • Ymddygiad gwrthgymdeithasol: beth ydyw, effaith a chefnogaeth
  • Yn ôl i Plismona yn y DU

    • Asiantaethau ac asiantaethau arbenigol ledled y DU
    • Comisiynwyr Heddlu a Throseddu (PCC)
    • System gyfiawnder yng Ngogledd Iwerddon
    • Ymchwiliad trosedd ar waith
    • Y broses cyfiawnder troseddol
  • Perfformiad
  • Yn ôl i Eich ardal chi

    • Darganfod sut i gysylltu â'ch tîm cymdogaeth
  1. Eich ardal chi
  2. ...
  3. Heddlu Gogledd Cymru
Delwedd o Mold East

Mold East

Chwilio ardal arall

Eich Map Tîm Ardal

Trosolwg

  • Trosolwg
  • Map trosedd
  • Stopio a chwilio
  • Ystadegau

Trosolwg

Troseddau a adroddwyd orau

Y troseddau a adroddir amlaf yn ystod Mai 2026

  • Trais a throseddau rhyw

    20
  • Trefn gyhoeddus

    10
  • Ymddygiad gwrthgymdeithasol

    8
  • Dwyn o siopau

    8
Mynnwch gyngor ar atal troseddau

Trosolwg o lefelau troseddu

Troseddau y llynedd

Troseddau fesul Mis

Galluogwch JavaScript mewn porwr sy’n cefnogi’r elfen canfas i weld y data canlynol fel siart
Trosolwg o lefelau troseddu
Mis Cyfanswm Canran
Meh 2025 39 7.6%
Gorff 2025 41 8%
Awst 2025 44 8.6%
Medi 2025 32 6.2%
Hyd 2025 49 9.5%
Tach 2025 39 7.6%
Rhag 2025 42 8.2%
Ion 2026 46 8.9%
Chwef 2026 42 8.2%
Maw 2026 48 9.3%
Ebr 2026 39 7.6%
Mai 2026 53 10.3%

Eich tîm plismona lleol

  • Amdanom ni
  • Eich tîm
  • Blaenoriaethau plismona
  • Cyfarfodydd

Amdanom ni

Amdanom ni

Mae timau plismona lleol yn grwpiau o swyddogion sy'n ymroddedig i wasanaethu'r gymuned. Mae timau'n cynnwys swyddogion sydd wedi'u lleoli yn yr ardal, gyda chefnogaeth swyddogion ychwanegol o'r ardal ehangach.

Mae timau'n gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol, sefydliadau, partneriaid a thrigolion i benderfynu ar flaenoriaethau plismona. Mae hyn yn helpu timau i ddod o hyd i atebion hirdymor i broblemau lleol.

 

Darganfod sut i gysylltu â'ch tîm cymdogaeth

Eich tîm

  • Arolygydd

    Iwan Jones

  • Rhingyll

    Kerry Nash

  • Cwnstabl yr Heddlu

    Aiden Berry

  • Cwnstabl yr Heddlu

    Anna Preece

  • Cwnstabl yr Heddlu

    David Jackson

  • Cwnstabl yr Heddlu

    Ian Pearson

  • Cwnstabl yr Heddlu

    Jim Gregory

  • Cwnstabl yr Heddlu

    Natalie Williams

  • Cwnstabl yr Heddlu

    Rosie Humphries

  • Cwnstabl yr Heddlu

    Troy Williams

  • SCCH

    Charlotte Wilson

  • SCCH

    Daniel Sanders

  • SCCH

    Enfys Roberts

  • SCCH

    Hannah Taylor

  • SCCH

    Helen Holden

  • SCCH

    Jo Jenner

  • SCCH

    Lona Roberts

  • SCCH

    Masey Cooney

Blaenoriaethau plismona

  • Blaenoriaeth:

    Camau a gymerwyd:

  • Blaenoriaeth:

    Ymdrin â throseddau manwerthu

    Wedi'i roi 09 Gorffennaf 2026

    Camau a gymerwyd:

    Nid troseddau heb ddioddefwr ydy troseddau manwerthu, ac mae timau De Sir y Fflint yn parhau ymrwymo i ymdrin â’r troseddau hyn yn rhagweithiol, gan ddefnyddio amryw o ddulliau. Nid yn unig bod troseddau manwerthu’n effeithio ar fân-werthwyr, ond hefyd ar weithwyr manwerthu ac aelodau’r cyhoedd sydd efallai’n gweld y digwyddiadau hyn. Mae siopladrad yn gyrru prisiau’n uwch i bawb. Mae troseddwyr yn aml yn ymwneud â ffrydiau troseddol eraill. Ymgyrch Belt ydy’n hymgyrch ni er mwyn ymdrin â’r troseddwyr hyn. Mae gynno ni dîm sy’n adolygu pob trosedd manwerthu sy’n cael ei riportio, ac maen nhw’n canolbwyntio ar gael tystiolaeth gynnar, fel CCC a datganiadau tyst, sy’n helpu er mwyn nodi troseddwyr a chreu pecynnau ar gyfer arést. Yna, mae’r tîm cymdogaethau’n gallu canolbwyntio ar weithredu’r pecynnau hyn a dod â throseddwyr i’r ddalfa. Mae hyn yn helpu sicrhau bod troseddwyr yn dod o flaen eu gwell a hynny cyn cyflawni troseddau pellach. Mae ymyrraeth gynnar hefyd yn helpu wrth adfer eiddo wedi’i ddwyn, sydd hefyd yn dystiolaeth dda wrth greu achos i’w roi gerbron y llys. Mae ymyraethau y tu allan i’r llys, fel Checkpoint, hefyd yn cael eu defnyddio pan fo troseddwyr yn fregus neu mewn perygl o droseddu pellach am resymau amrywiol. Mae’r cyfeirio hyn at lwybrau amgen efo lefel uchel o lwyddiant mewn atal troseddu yn y dyfodol, sydd hefyd yn lleihau’r galw. ‘Da ni hefyd yn gweithio’n agos efo asiantaethau partner er mwyn nodi troseddwyr, fel Heddlu Swydd Gaer, Parc Siopa Brychdyn a Sir y Fflint yn Erbyn Troseddau Busnes. ‘Da ni’n mynd i gyfarfodydd rheolaidd er mwyn trafod troseddau a adroddwyd ac adolygu fideo CCC, yn ogystal â threfnu dyddiau gweithredu, lle mae timau’n cael eu danfon mewn dillad plaen ac yn canolbwyntio ar ardaloedd o alw uchel.

    Camau wedi'u cymryd 09 Gorffennaf 2026

  • Blaenoriaeth:

    Trais yn erbyn merched a genethod

    Wedi'i roi 09 Gorffennaf 2026

    Camau a gymerwyd:

    Mae tîm plismona De Sir y Fflint wedi ymrwymo i ymdrin yn rhagweithiol â’r broblem trais yn erbyn merched a genethod, gan geisio lleihau troseddu drwy weithredu cadarnhaol ac addysg. Mae’r tîm Cymdogaethau yn cyflwyno sesiynau i fyfyrwyr y chweched ddosbarth yn Ysgol Alun, yr Wyddgrug ar hyn o bryd, gan addysgu a chynnig cyngor i ferched a bechgyn ar wahân. Mae hwn yn gynllun peilot ar hyn o bryd. Fodd bynnag, os bydd yr adborth gan yr ysgol a’r myfyrwyr yn gadarnhaol, mi fyddwn yn ymestyn y sesiynau i fyfyrwyr blynyddoedd 10, 11, 12 a 13. Nid yn unig mae hwn yn gyfle gwych er mwyn chwalu rhwystrau rhwng pobl ifanc a’r heddlu, gan eu caniatáu i sgwrsio efo ni mewn man cyfarwydd a diogel, mae hefyd yn caniatáu i ferched rannu profiadau personol o ran VAWG yn breifat drwy adborth. Yna, mae’r enghreifftiau’n cael eu rhannu efo’r bechgyn, er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r ffordd mae eu hymddygiad a’u gweithrediadau yn gallu cael eu dehongli, a thrafod sut i osgoi hyn. Mae’r math hwn o addysg yn hynod o bwysig yn ystod y cyfnod hwn, gan bod llawer o’r myfyrwyr ar fin gadael cartref am y brifysgol. Mae’n hollbwysig eu bod nhw’n cydnabod y materion hyn er mwyn iddyn nhw nodi arwyddion cynnar o gysylltiadau niweidiol, a rhoi hyder iddyn nhw riportio unrhyw droseddau. Mae hefyd yn bwysig bod bechgyn yn gwybod yr hyn sy’n drosedd, gan ganolbwyntio ar wrth-misogyni ac ymwybyddiaeth o’r ffordd gall eu hymddygiad, er yn anfwriadol, effeithio ar bobl eraill. ‘Da ni hefyd yn dosbarthu posteri cynghorol i siopau a thafarndai lleol, gan sicrhau codi ymwybyddiaeth a chynnig tawelwch meddwl y byddwn ni’n gwrando ar ddioddefwyr.

    Camau wedi'u cymryd 09 Gorffennaf 2026

  • Blaenoriaeth:

    Ymdrin ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

    Wedi'i roi 09 Gorffennaf 2026

    Camau a gymerwyd:

    Efo cyfnod yr haf ar y gorwel, mae tîm plismona De Sir y Fflint yn canolbwyntio ar leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ein hardaloedd ni, o bobl ifanc yn achosi niwsans i oedolion yn creu problemau cymdogol. Mae’r tywydd cynhesach yn naturiol yn achosi cynnydd yn y math hwn o ymddygiad, wrth i bobl dreulio mwy o amser y tu allan yn ystod y nosweithiau hirach a goleuach. Mi fydd ein hymdriniaeth ni’n cynnwys cynyddu patrolau mewn llecynnau, ymatebion rhagweithiol, ac atgyfeiriadau at asiantaethau partner. ‘Da ni’n parhau gweithio efo’n partneriaid tai er mwyn ymdrin â’r problemau. Rhyngom ni, dros y misoedd diweddar, ‘da ni wedi cyflwyno 7 ABC (cytundeb ymddygiad derbyniol) i nifer o breswylwyr er mwyn atal gwaethygiad yn yr ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae darparwyr cartrefi hefyd wedi derbyn rhybuddion tenantiaeth oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eu heiddo nhw. ‘Da ni’n parhau cynnal cyfarfodydd rheolaidd efo sawl asiantaeth partner, gan gynnwys Cartrefu Sir y Fflint, Clwyd Alyn, Cymru a’r Gorllewin, yn ogystal â thrwyddedu, Cyfiawnder Ieuenctid a SORTED Sir y Fflint. Mae ymweliadau a phatrolau ar y cyd yn cael eu cynnal pan mae’r galw’n uwch, ac mae’r timau ymateb a chymdogaethau efo cynllun ymateb penodol ar gyfer y meysydd hyn. Mae tîm cymdogaethau De Sir y Fflint hefyd yn gweithio’n agos efo safonau masnach er mwyn ymdrin â’r llefydd a’r safleoedd masnach sy’n cyfrannu at ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ein cymunedau ni, drwy rannu gwybodaeth a chudd-wybodaeth a helpu efo gwarantau. Mae’r tîm cymdogaethau hefyd yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd o ran y Cynlluniau Gwarchod Siopau a Thafarndai yn ardaloedd yr Wyddgrug a Bwcle. Mae’r cynllun tafarndai yn helpu ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig ag alcohol a throseddu, drwy gydweithio efo’r tîm trwyddedu a Heddlu Gogledd Cymru. Mae unigolion problemus yn cael eu gwahardd, a ‘da ni’n helpu’n gilydd drwy rannu gwybodaeth a chudd-wybodaeth. Er bod y problemau hyn fel arfer oherwydd y lleiafrif o bobl, mae eu hymddygiad yn gysylltiedig ag alcohol yn aml yn ddi-baid. Ar hyn o bryd, mae 39 unigolyn wedi’i wahardd am resymau amrywiol. Mae’r Cynllun Gwarchod Siopau yn canolbwyntio ar ymddygiad gwrthgymdeithasol o fewn eiddo manwerthu, efo’r nod o nodi troseddwyr di-baid a chymryd camau cadarnhaol er mwyn lleihau hyn. Felly, mae’r staff manwerthu yn cael eu diogelu ac yn sicrhau bod pobl eraill yn gallu siopa heb ofn profi ymddygiad gwrthgymdeithasol.

    Camau wedi'u cymryd 09 Gorffennaf 2026

Cyfarfodydd

Ffrith: Paned efo Plismon

1:00pm - 3:00pm, Gwe 17 Gorffennaf 2026

Caffi'r Poachers, Ffrith

Ychwanegu at y calendr

Fferi Halen: Paned efo Plismon

10:00am - 12:00pm, Sad 18 Gorffennaf 2026

Caffi Eglwys Gynradd, Fferi Halen

Ychwanegu at y calendr

Mynydd Isa: Paned efo Plismon

10:00am - 12:00pm, Mer 22 Gorffennaf 2026

Caffi Isa, Mynydd Isa, Mercia Dr, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint

Ychwanegu at y calendr

Yr Wyddgrug: Paned efo Plismon

10:00am - 11:30am, Iau 23 Gorffennaf 2026

Canolfan Daniel Owen, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint

Ychwanegu at y calendr

Yr Wyddgrug: Cyfarfod yr Heddlu

10:00am - 1:00pm, Sad 25 Gorffennaf 2026

Gorsaf Heddlu yr Wyddgrug, Stryd y Brenin, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint

Ychwanegu at y calendr

Drury: Paned efo Plismon

10:00am - 12:00pm, Llun 03 Awst 2026

Susans Coffee Shop, Canolfan Gardd Lesters, Drury

Ychwanegu at y calendr

New Brighton: Paned efo Plismon

2:00pm - 4:00pm, Gwe 07 Awst 2026

Clwb Bowls New Brighton, Moel Fammau Rd, Yr Wyddgrug

Ychwanegu at y calendr

Yr Wyddgrug: Cyfarfod yr Heddlu

2:00pm - 4:00pm, Maw 11 Awst 2026

Caffi’r Cob, Earl Rd, Yr Wyddgrug

Ychwanegu at y calendr

Yr Wyddgrug: Cyfarfod yr Heddlu

10:00am - 1:00pm, Sad 15 Awst 2026

Gorsaf Heddlu yr Wyddgrug, Stryd y Brenin, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint

Ychwanegu at y calendr

Hawarden: Paned efo Plismon

10:00am - 12:00pm, Maw 18 Awst 2026

Clwb Bowls Hawarden, 113 The Highway, Deeside

Ychwanegu at y calendr

Caerwys: Paned efo Plismon

11:00am - 12:00pm, Mer 19 Awst 2026

On the corner Cafe, Compton House Apartments, South St, Caerwys, Yr Wyddgrug

Ychwanegu at y calendr

Yr Wyddgrug: Paned efo Plismon

10:00am - 11:30am, Iau 20 Awst 2026

Canolfan Daniel Owen, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint

Ychwanegu at y calendr

Caergwrle: Paned efo Plismon

10:00am - 12:00pm, Gwe 21 Awst 2026

Honey's Cafe, Caergwrle

Ychwanegu at y calendr

Gwernymynydd: Paned efo Plismon

10:00am - 12:00pm, Gwe 21 Awst 2026

Hen Dy Ysgol, Gwernymynydd, Yr Wyddgrug

Ychwanegu at y calendr

Rhydymwyn: Paned efo Plismon

2:00pm - 3:00pm, Gwe 21 Awst 2026

Coffee Shed, Rhydymwyn, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint

Ychwanegu at y calendr

Yr Wyddgrug: Cyfarfod yr Heddlu

10:00am - 1:00pm, Sad 12 Medi 2026

Gorsaf Heddlu yr Wyddgrug, Stryd y Brenin, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint

Ychwanegu at y calendr

Yr Wyddgrug: Cyfarfod yr Heddlu

10:00am - 12:00pm, Sad 10 Hydref 2026

Gorsaf Heddlu yr Wyddgrug, Stryd y Brenin, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint

Ychwanegu at y calendr

Yr Wyddgrug: Cyfarfod yr Heddlu

10:00am - 12:00pm, Sad 14 Tachwedd 2026

Gorsaf Heddlu yr Wyddgrug, Stryd y Brenin, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint

Ychwanegu at y calendr

Edrychwch ar ein tudalen Facebook am gyfarfodydd a digwyddiadau sydd i ddod.

9:00am - 7:00pm, Maw 01 Rhagfyr 2026

https://www.facebook.com/NWPSouthFlintshire

Ychwanegu at y calendr

Yr Wyddgrug: Cyfarfod yr Heddlu

10:00am - 12:00pm, Sad 05 Rhagfyr 2026

Gorsaf Heddlu yr Wyddgrug, Stryd y Brenin, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint

Ychwanegu at y calendr

Chwilio am ardal arall

Dewch o hyd i ardaloedd lleol, heddluoedd, lefelau troseddu ac ystadegau gan ddefnyddio'r blwch chwilio isod. Rhowch god post, cyfeiriad stryd neu ardal.
Rheolaethau chwilio lleoliad

Llywio troedyn

Police.uk

  • Dewch o hyd i heddlu
  • Adborth am y wefan
  • Cwcis
  • Telerau ac amodau
  • Preifatrwydd
  • Hygyrchedd
  • Ynglŷn â'r Drwydded Llywodraeth Agored

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Gyrfaoedd a gwirfoddoli
  • Cyngor ac atal troseddu
  • Dadlwythiadau data ac API

Partneriaid

  • NPCC
  • APCC
  • Ask the police
  • Gweinyddiaeth Cyfiawnder - Gwybodaeth i Ddioddefwyr a Thystion
  • Victim Support

Iaith

  • English

© Hawlfraint 2023. Cedwir pob hawl cynnwys.

Mae'r holl ddata ar gael o dan Drwydded Llywodraeth Agored v3.0 oni nodir yn wahanol.