Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Gwybodaeth am y data troseddau sydd ar police.uk; sut y caiff ei gasglu, ei ddienwi a’i gyhoeddi.
I weld yr holl ddata plismona a throseddau, ewch i data.police.uk
Ers dechrau 2009, mae Police.uk wedi cyhoeddi ystadegau troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ar lefel stryd gan bob Heddlu yng Nghymru a Lloegr. Mae hyn yn caniatáu i’r cyhoedd weld beth sy’n digwydd yn eu hardal leol.
Ers ei chyhoeddi gyntaf, mae gwefan Police.uk wedi cael ei datblygu i gynnwys gwybodaeth yn ymwneud â 'Chanlyniadau Cyfiawnder' (a gyflwynwyd ym mis Mai 2012 ac a ddarparwyd gan bartneriaid yn y system cyfiawnder troseddol) a gweithgarwch 'Stopio a Chwilio' (a gyflwynwyd gyda sampl o heddluoedd ym mis Ebrill 2015).
Ydyn. Priodolir troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n digwydd ar drên sy’n symud i gyrchfan olaf y siwrnai honno. Ewch i crimemaps.btp.police.uk/about/ i gael rhagor o wybodaeth.
Lle bynnag y bo hynny’n bosibl caiff pob trosedd neu ddigwyddiad ymddygiad gwrthgymdeithasol eu dangos ar y map, ar neu yn agos at y stryd neu fan diddordeb lle digwyddodd. Fodd bynnag, efallai y bydd rhai achlysuron lle nad yw’r dioddefwr na’r heddlu sy’n ymchwilio iddynt yn gwybod lle gwnaethant ddigwydd. Er enghraifft, efallai na fydd y dioddefwr yn gwybod neu’n gallu cofio lle digwyddodd trosedd, neu efallai ei bod wedi digwydd tra’n teithio rhwng dau leoliad.
Hefyd, pe bai diewni’r lleoliad trosedd yn golygu ei fod yn cael ei ddangos ymhellach nag 20km o’r man y digwyddodd, yna ni ddangosir y troseddau hyn ar y map.
Darperir yr holl ddata troseddau neu ymddygiad gwrthgymdeithasol ar Police.uk gan heddluoedd unigol a byddwn yn cydweithio â hwy i ddarparu’r wybodaeth fwyaf cywir posibl. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y data yn data.police.uk/about.
Mae dedfrydu mewn achosion unigol yn fater ar gyfer y farnwriaeth annibynnol, sy’n gwneud ei phenderfyniadau’n seiliedig ar ffeithiau llawn pob achos. Bydd y ffeithiau hyn yn amrywio ar gyfer pob achos ac felly mae’r canlyniadau (dedfrydau) hefyd yn debygol o amrywio.
Mae’r categorïau troseddau sydd wedi’u cynnwys ar Police.uk yn eang iawn ac yn cwmpasu ystod o droseddau a difrifoldeb troseddau; er enghraifft bydd 'trosedd dreisgar' yn cynnwys ymosodiad cyffredin a llofruddiaeth. Felly, bydd y mathau o ganlyniadau yn amrywio’n sylweddol.
Ni all Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM ateb cwestiynau ynglŷn â phenderfyniadau dedfrydu penodol. Os yw unigolyn yn anfodlon â’i ddedfryd gall apelio i lys uwch.
Gall cosbau tu allan i’r llys a roddir gan yr heddlu fod yn offeryn hollbwysig ar gyfer delio â throsedd lefel isel yn y gymuned. Dyna pam fod yr heddlu ac asiantaethau cyfiawnder troseddol yn cydweithio er mwyn sicrhau bod yna ddull clir a chyson y gall dioddefwyr a chymunedau ei ddeall. Fodd bynnag, mae penderfyniadau unigol yn parhau i fod yn fater gweithredol ar gyfer yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron.
Mae Open.justice.gov.uk yn rhoi rhagor o wybodaeth am sut mae’r system cyfiawnder yn gweithio.
Pob trosedd: Cyfanswm ar gyfer yr holl gategorïau.
Ymddygiad gwrthgymdeithasol: Mae’n cynnwys ymddygiad gwrthgymdeithasol personol, amgylcheddol a niwsans.
Dwyn beic: Mae’n cynnwys dwyn neu gymryd beic pedal heb ganiatâd.
Byrgleriaeth: Mae’n cynnwys troseddau lle bydd person yn mynd i mewn i dŷ neu adeilad arall gyda’r bwriad o ddwyn.
Difrod troseddol a llosgi bwriadol: Mae’n cynnwys difrod i adeiladau a cherbydau a difrod bwriadol gan dân.
Cyffuriau: Mae’n cynnwys troseddau’n ymwneud â meddiant, cyflenwi a chynhyrchu.
Troseddau eraill: Mae’n cynnwys ffugiad, anudoniaeth ac amrywiol droseddau eraill.
Dwyn arall: Mae’n cynnwys dwyn gan weithiwr, blacmel a gadael heb dalu.
Meddiant arfau: Mae’n cynnwys bod ym meddiant arf megis arf tanio neu gyllell.
Trefn gyhoeddus: Mae’n cynnwys troseddau sy’n achosi braw, ofn neu drallod.
Lladrad: Mae’n cynnwys troseddau lle bydd person yn defnyddio grym neu’n bygwth grym er mwyn dwyn.
Dwyn o siop: Mae’n cynnwys dwyn o siopau neu stondinau.
Dwyn oddi ar berson: Mae’n cynnwys troseddau sy’n ymwneud â dwyn yn uniongyrchol oddi ar y dioddefwr (yn cynnwys bag llaw, waled, arian parod, ffôn symudol) ond heb ddefnyddio na bygwth grym corfforol.
Trosedd cerbydau: Mae’n cynnwys dwyn o gerbyd, dwyn cerbyd neu ymyrryd â cherbyd.
Trais a throseddau rhywiol: Maent yn cynnwys troseddau yn erbyn y person, megis ymosodiadau cyffredin, Niwed Corfforol Difrifol, a throseddau rhywiol.
Gellir lawrlwytho mapio cyflawn rhwng Codau Troseddau y Swyddfa Gartref a’r categorïau ar Police.uk isod.
Dyma’r cam cyntaf tuag at gyhoeddi rhagor o wybodaeth ynglŷn â beth sy’n digwydd wedi i drosedd gael ei chofnodi. Fodd bynnag, mae rhai rhesymau pam na allwch efallai weld canlyniad ar gyfer trosedd, sy’n cynnwys:
Ymdrinnir â phob achos yn briodol gan y system cyfiawnder, hyd yn oed os na ddangosir canlyniad yn y data ar yr adeg dan sylw.
Ar gyfer rhai troseddau cyhuddir ac erlynir mwy nag un troseddwr, ac felly gallai fod mwy nag un dull o weithredu neu ganlyniadau wedi’u rhestru ar gyfer y drosedd honno (e.e. rhestrir 'Cyhuddo’r un dan amheuaeth' fwy nag unwaith, sy’n dangos bod nifer o droseddwyr yn rhan o’r drosedd).
Er bod hyn yn gwneud y wybodaeth yn fwy cymhleth i’w chyflwyno rydym o’r farn ei bod yn well rhoi gwybodaeth i’r cyhoedd am yr holl weithredu a chanlyniadau sy’n deillio o drosedd a gyflawnwyd.
Mae’n rhaid i’r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron asesu’r dystiolaeth sydd ar gael, boed hynny’n dystiolaeth gan dyst, yn dystiolaeth fforensig neu hyd yn oed yn dystiolaeth achlust.
Mewn amgylchiadau lle nad oes digon o dystiolaeth, efallai y gwneir penderfyniad i ganolbwyntio adnoddau ar y troseddau hynny y mae’n bosibl sicrhau cyhuddiad ac erlyniad.
Gall fod nifer o resymau pam nad oedd hi’n bosibl gweithredu ymhellach. Ni ellir datrys rhai achosion. Fodd bynnag, gellir ailagor achosion os daw rhagor o dystiolaeth i’r amlwg.
Gall fod nifer o resymau am hyn, yn cynnwys:
Adroddir ar ddata troseddau 3 blynedd bob chwarter blwyddyn yn hytrach nag yn fisol fel bod y data yn ddarllenadwy. Dim ond data ar gyfer chwarteri llawn a adroddir yn y graffiau trosolwg gan fod y rhain yn arddangos yn ôl chwarter.
Gallai dangos data am chwarter anghyflawn roi argraff gamarweiniol bod cyfraddau troseddu yn is ar gyfer y chwarter hwnnw.
Ar gyfer graffiau sy’n arddangos cyfansymiau 3 blynedd, defnyddir y data mwyaf cyfredol hyd yn oed pan fo chwarter anghyflawn, gan nad yw’r gwerthoedd yn cael eu torri lawr yn ôl chwarter.