Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Mae ap plismona newydd wedi’i lansio i alluogi'r cyhoedd i riportio troseddau a digwyddiadau, cael gwybodaeth am dimau plismona lleol a chyngor a chymorth i ddioddefwyr a thystion troseddau.
Mae’r ap, o’r enw Police.UK, ar gael drwy gyfrwng Google Play ac iOS App ac mae wedi’i ddarparu gan Raglen Cyswllt Cyhoeddus Digidol (DPC) Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu.
Mae’n caniatáu i’r cyhoedd riportio troseddau a digwyddiadau, cael cyngor ar atal trosedd ar gyfer ystod eang o faterion, fel cyngor ar atal byrgleriaeth neu droseddau cerbydau, sy’n gyson yn genedlaethol, gwybodaeth am dimau plismona cymdogaethau lleol, rhestru pwy sydd ar y tîm, lleol. gwybodaeth a blaenoriaethau troseddau lleol ac unrhyw gyfarfodydd sydd ar y gweill yn y gymuned.
Mae’r ap yn cyd-fynd â’r cynnwys sydd ar gael trwy wefan Police.uk, sef y wefan blismona genedlaethol ar gyfer gwasanaethau a gwybodaeth, yn ogystal â llwyfan gwe yr Hafan Ar-lein Sengl sy’n cefnogi 38 allan o 43 o wefannau’r heddlu.
Dywedodd yr Uwch Swyddog sy'n gyfrifol am y DPC, y Dirprwy Brif Gwnstabl Simon Megicks: "Rydyn ni am ei gwneud hi mor hawdd â phosib i’r cyhoedd gysylltu â’r heddlu, neu ffendio'r hyn mae angen ei wybod fel sut i gadw eu hunain neu eu heiddo’n ddiogel, neu ddeall beth sy’n digwydd gyda’u tîm plismona lleol. Mae'r ap Police.UK yn rhoi’r cyhoedd mewn rheolaeth i riportio'r hyn maen nhw ei eisiau, pan maen nhw eisiau.
"Rydyn ni’n gwybod bod cael dewis digidol yn agor drws i lawer, sy’n golygu lle na fydden nhw wedi riportio gwybodaeth o’r blaen, eu bod nhw'n gwneud hynny nawr. Yn aml, gall troseddau a digwyddiadau fynd heb eu riportio am nad yw hi bob amser yn gyfleus gwneud galwad ffôn neu fynd i orsaf heddlu. Mae'r opsiwn o riportio'n ddigidol yn rhoi rheolaeth i'r dioddefwr neu’r tyst a'u cadw nhw rhag gorfod ail-fyw’r digwyddiad ar goedd i rywun nad ydyn nhw erioed o’r blaen. Gallan nhw gymryd rheolaeth yn llwyr drwy ddefnyddio'r app yn y ffordd maen nhw eisiau.
"Mae sicrhau ap i gyd-fynd â'n harlwy digidol cynyddol yn fodd inni roi dewis gwahanol i gynulleidfa ehangach. Er hynny, rhaid pwysleisio y dylai’r cyhoedd ffonio 999 bob amser, os yw'n argyfwng, ac mae'r opsiwn o ffonio 101 ar gyfer materion cyffredin yn dal i fodoli."
Mae Rhaglen Cyswllt Cyhoeddus Digidol yr NPCC yn gyfrifol am weddnewid y ffordd y gall y cyhoedd gysylltu â’r heddlu’n ddigidol.
Mae’n rhedeg llwyfan gwe yr Hafan Ar-lein Sengl (SOH) sy'n cael ei ddefnyddio gan 38 o'r 43 o heddluoedd tiriogaethol, gan gynnig profiad plismona digidol lle gall y cyhoedd weld ystod eang o wasanaethau riportio, cyngor ar atal troseddau a gwybodaeth am dimau plismona lleol. Mae'r SOH hefyd yn cynnal Sgwra Fyw sy'n cael ei rhedeg gan staff cyswllt yn yr heddluoedd.
Mae hefyd yn gyfrifol am wefan Police.uk, sy’n darparu data a chyngor a gwybodaeth am wasanaethau plismona.