Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Beth yw trosedd?
Gweithred fwriadol sy’n achosi niwed corfforol neu seicolegol, difrod i eiddo neu golli eiddo, ac sy’n groes i’r gyfraith yw trosedd.
Mae nifer o fathau gwahanol o droseddau a bydd bron pawb yn cael profiad o drosedd ar ryw adeg yn ystod eu bywyd. Mae’n effeithio ar bobl o bob cefndir, mewn amrywiaeth o leoliadau ac o bob oed.
Os ydych chi’n teimlo yr effeithiwyd arnoch gan drosedd mewn unrhyw fodd cysylltwch â ni, hyd yn oed os nad ydych yn siŵr a oedd y digwyddiad yn drosedd.
Ewch i www.victimsupport.org.uk/crime-info/what-crime er mwyn:
Dosbarthir data troseddau yn fathau ‘mawr’ a ‘mân’. Isod gallwch weld y mathau o droseddau mawr a mân a beth maent yn ei gynnwys.
Byrgleriaeth yw dwyn, neu ymgais i ddwyn, o eiddo lle nad yw mynediad wedi’i awdurdodi.
Bydd difrod i eiddo, sydd fel petai wedi ei achosi gan berson yn ceisio cyflawni byrgleriaeth, hefyd yn cael ei gyfrif fel byrgleriaeth.
Gwahaniaethir rhwng byrgleriaeth preswyl a masnachol yn seiliedig ar swyddogaeth yr adeilad.
Mae mathau mân yn cynnwys:
Pan fo eiddo’n cael ei ddinistrio neu ei ddifrodi’n fwriadol, nid o reidrwydd er mwyn cael mynediad i eiddo neu gerbyd.
Mae mathau mân yn cynnwys:
Meddiant, defnydd, cyflenwi neu’r bwriad i gyflenwi cyffuriau anghyfreithlon.
Mae mathau mân yn cynnwys:
Dichell fwriadol yn y rhan fwyaf o achosion er mwyn elwa’n ariannol yw twyll; ffugiad yw’r weithred o greu copi unfath o wrthrych gyda’r bwriad o ddichell.
Mae mathau mân yn cynnwys:
Mae hwn yn gategori eang sy’n cynnwys troseddau sy’n hysbysadwy i’r Swyddfa Gartref.
Mae mathau mân yn cynnwys:
Dwyn gan ddefnyddio grym neu fygwth grym. Mae lladrad personol a masnachol yn y categori hwn. Nid yw dwyn drwy gipio wedi’i gynnwys.
Mae mathau mân yn cynnwys:
Categori eang o droseddau rhywiol, yn cynnwys Ymosodiad Anweddus a Cyfathrach Rywiol Anghyfreithlon (dan oed.
Mae mathau eraill yn cynnwys:
Dwyn oddi wrth berson, dwyn cerbyd modur, beic, dwyn o eiddo preswyl neu dibreswyl a mwy. Yn ogystal â storio, cludo neu geisio ailwerthu eiddo yn dilyn lladrad.
Mae mathau mân yn cynnwys:
Mae’n cynnwys ystod o droseddau yn amrywio o fân droseddau megis aflonyddu ac ymosodiad cyffredin, i droseddau difrifol megis llofruddiaeth, gwir niwed corfforol a niwed corfforol difrifol.
Mae mathau mân yn cynnwys:
Mae hwn yn gategori eang o fathau sydd heb eu cynnwys mewn categorïau eraill. Maent yn amrywio o droseddau cysylltiedig ag arfau i droseddau casineb a lladrad.
Mae mathau mân yn cynnwys:
Diffinnir ymddygiad gwrthgymdeithasol fel rhywun sy’n ymddwyn mewn modd sy’n achosi neu’n debygol o achosi aflonyddwch, gofid neu drallod i un neu fwy o bobl sydd ddim yn byw yn yr un cartref â’r un sy’n ymddwyn felly.
Mae gwahanol ffyrdd i riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol yn seiliedig ar natur yr ymddygiad.
Beth i’w riportio i’ch tîm plismona lleol:
Sut i riportio i’ch tîm plismona lleol:
Beth i’w riportio i’ch landlord:
Beth i’w riportio i’r cyngor:
Gallwch riportio twyll i Report Fraud unrhyw adeg o’r dydd neu nos gan ddefnyddio ei offeryn riportio twyll ar-lein neu drwy ffonio 0300 123 2040.
Ffoniwch y Llinell Gymorth Gwrthderfysgaeth ar 0800 789 321.
Neu riportiwch eich pryderon ar-lein. Rheolir yr offeryn riportio Llinell Gymorth Gwrthderfysgaeth gan Heddlu’r Met.