Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Mae’n anghyfreithlon i:
Gall enghreifftiau o resymau da dros gario cyllell yn gyhoeddus gynnwys:
Bydd llys yn penderfynu a oes gennych reswm da dros gario cyllell os cewch eich cyhuddo o’i chario’n anghyfreithlon.
Enghreifftiau o gyllyll sydd wedi’u gwahardd yn llwyr yw:
Nid yw hon yn rhestr lawn o gyllyll ac arfau sydd wedi’u gwahardd. Cysylltwch â’ch heddlu lleol i wirio a yw cyllell neu arf yn anghyfreithlon.
Mae angen i chi gael tystysgrif arfau tanio a roddir gan yr heddlu i fod ym meddiant, prynu neu gaffael arf tanio neu wn haels. Rhaid i chi hefyd fod â thystysgrif i brynu bwledi. Mae’n anghyfreithlon i unrhyw un dan 18 oed brynu arf tanio ffug ac i unrhyw un werthu arf tanio ffug i rywun o dan 18 oed.
Mae rhai arfau tanio wedi’u gwahardd yn llwyr. Ni fyddwch yn gallu cael tystysgrif ar eu cyfer ac mae’n drosedd i fod yn eu meddiant, eu prynu neu eu caffael heb awdurdod yr Ysgrifennydd Cartref.
Mae’n drosedd i fod ym meddiant arf tanio, dryll neu arf aer peryglus a rhai mathau o fwledi heb dystysgrif, neu i fod ym meddiant arf sydd wedi ei wahardd.
Os cewch eich dal yn cario cyllell neu wn yn anghyfreithlon, hyd yn oed un ffug, cewch eich arestio a’ch erlyn. Nid yw’n esgus dweud eich bod yn ei gario er eich diogelwch eich hun neu eich bod yn ei gario ar ran rhywun arall.
Cofiwch - mae’r gyfraith yn glir - os ydych yn dewis cario arf, rydych yn rhoi eich dyfodol eich hun mewn perygl. Os nad ewch ag ef gyda chi, ni chaiff ei ddefnyddio. Dysgwch fwy drwy fynd i https://www.knifefree.co.uk/.
Chwaraewch eich rhan mewn lleihau troseddau cyllyll a gynnau drwy riportio pobl y gwyddoch chi, neu yr ydych yn amau, sy’n cario arf yn anghyfreithlon.
Ffoniwch eich heddlu lleol ar 101, neu 999 os yw trosedd ar waith neu os oes bywyd mewn perygl.
Os na allwch siarad â’r heddlu, cysylltwch â’r elusen annibynnol Taclo’r Taclau drwy ffonio 0800 555 111 neu ddefnyddio ei ffurflen riportio ar-lein a rhoi gwybodaeth am y drosedd yn ddienw