Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Ar y dudalen hon:
Sut y caiff Grwpiau Mwyaf Tebyg eu creu
Amrywiadau a defnyddiwyd i gyfrifo Grwpiau Mwyaf Tebyg
Creu Grwpiau Mwyaf Tebyg – rhagor o fanylion
Cyfrifo’r llinellau coch a gwyrdd
Mae adran ‘Cymharu Eich Ardal’ gwefan police.uk yn cynnwys tair siart sydd wedi eu cynllunio i’ch helpu i ateb y cwestiynau canlynol:
Sut mae troseddau yn eich ardal leol yn cymharu gyda throseddau mewn ardaloedd tebyg?
Sut mae troseddau yn eich ardal leol yn cymharu gyda throseddau yn ardal eich heddlu?
Sut mae troseddau wedi newid dros amser yn eich ardal leol ac yn ardal eich heddlu?
(Yn dechnegol, yr hyn y cyfeiriwn ato fel ‘ardal leol’ yw ardal “Partneriaeth Diogelwch Cymunedol’. Ar hyn o bryd mae 293 Partneriaeth Diogelwch Cymunedol yn Lloegr a 22 yng Nghymru, gyda’r rhan fwyaf ohonynt yn cyfateb i ardaloedd awdurdod lleol. Maent yn cynnwys cynrychiolwyr o’r heddlu ac awdurdod yr heddlu, y cyngor a gwasanaethau tân, iechyd a phrawf.)
Yn y cyd-destun hwn, dywedir bod dwy ardal yn ‘debyg’ os oes ganddynt nodweddion demograffig, economaidd a chymdeithasol tebyg. Cynhyrchir y siartiau ar gyfer eich ardal leol yn awtomatig pan fyddwch yn rhoi eich cod post wrth fynd i mewn i wefan police.uk.
Datblygwyd siartiau ‘Cymharu Eich Ardal’ gan dîm o ddadansoddwyr yn Uned Dadansoddi Troseddau a Phlismona y Swyddfa Gartref.
Er mwyn cymharu lefel troseddau yn eich heddlu lleol gyda lefel troseddau mewn heddluoedd tebyg gallwch ddefnyddio offer ar wahân sydd ar gael ar wefan Cymharydd Troseddau a Phlismona Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi (ACEM). Bydd dolen ar dudalen Cymharu Eich Ardal yn mynd â chi’n uniongyrchol i siart ar gyfer eich heddlu ar wefan ACEM.
Mae siartiau Cymharu Eich Ardal wedi eu seilio ar ddata a gyhoeddwyd ynglŷn â nifer troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu.
Mae heddluoedd yn dychwelyd y data hwn i'r Swyddfa Gartref fel rhan o’u Gofyniad Data Blynyddol a chyhoeddir y data bob tri mis gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).
Caiff y data ei ddynodi fel ‘Ystadegau Gwladol’, sy’n golygu ei fod wedi ei gynhyrchu yn unol â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau Swyddogol2 .
Mae hyn yn ei gwneud hi’n ofynnol i’r data gael ei gynhyrchu, ei reoli a’i ddosbarthu i safonau proffesiynol uchel.
Gweler y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau Cenedlaethol am ragor o wybodaeth: http://www.statisticsauthority.gov.uk/assessment/code-of-practice/index.html
Mae’r data troseddau ar lefel ardal leol yn cynnwys y nifer o droseddau a gofnodwyd o dan bob un math o drosedd. Pan brosesir data i greu’r siartiau caiff y mathau unigol o droseddau eu crynhoi i 14 math.
Crynhoir mathau o droseddau i’r 14 categori trosedd canlynol: pob trosedd, dwyn beic, byrgleriaeth, difrod troseddol a llosgi bwriadol, cyffuriau, dwyn arall, meddiant arfau, trefn gyhoeddus, lladrad, dwyn o siop, dwyn gan berson, troseddau cerbydau, trais a throseddau rhyw a throseddau eraill.
Er mwyn cyfrifo cyfradd y troseddau fesul mil o drigolion, ar hyn o bryd defnyddir amcangyfrifon poblogaeth canol 2015 gan yr ONS.
Defnyddir yr amcangyfrifon hyn i gyfrifo’r holl gyfraddau troseddau hanesyddol ar y siartiau Cymharu Eich Ardal.
Mae’r dull hwn yn sicrhau bod cyfraddau troseddau ar gyfer y flwyddyn gyfredol yn cael eu cymhathu cyn gyflymed â phosibl gyda’r sail ar ba un y caiff ystadegau troseddau eu hadrodd ar ddiwedd y flwyddyn ac mae’n osgoi newidiadau sydyn mewn cyfraddau troseddau pan fydd amcangyfrifon poblogaeth a ddiweddarwyd yn cael eu cymhwyso.
Noder na chaiff sail poblogaeth yr ystadegau troseddau a gyhoeddir ei ddiweddaru fel arfer ar ôl eu cyhoeddi, felly bydd cyfraddau hanesyddol a ddangosir ar siartiau Cymharu Eich Ardal yn amrywio ychydig o gyfraddau a gyhoeddwyd mewn blynyddoedd blaenorol.
Seilir rhagamcaniadau poblogaeth canol 2015 ar Gyfrifiad 2011.
Mae’r siart hon yn cymharu lefel troseddau yn eich ardal leol gyda chyfartaledd lefel troseddau ar draws ardaloedd tebyg. Mae’n dangos cyfanswm nifer y troseddau dros gyfnod deuddeg mis am bob mil o drigolion, ar gyfer y math o drosedd a ddewisir.
Mae lle mae eich ardal yn gorwedd mewn perthynas â’r llinellau coch a gwyrdd yn bwysicach na’i safle ymhlith ardaloedd tebyg. Os yw eich ardal yn gorwedd rhwng y llinellau coch a gwyrdd mae ei chyfradd troseddau yn normal ar gyfer y grŵp. Os yw eich ardal yn gorwedd uwchben y llinell goch, mae ei chyfradd troseddau yn uwch na’r normal ar gyfer y grŵp, ac yn yr un modd, os yw eich ardal yn gorwedd o dan y llinell werdd, mae ei chyfradd troseddau yn is na’r normal (gweler Atodiad C am fanylion sut y caiff y llinellau coch a gwyrdd eu cyfrifo).
Yr ardaloedd a ddangosir ar y siart hon yw’r rheiny sydd wedi eu hasesu i fod y rhai mwyaf tebyg i’ch ardal chi. Fodd bynnag, mae’r amgylchiadau o fewn yr ardaloedd hyn yn dal i amrywio a gall yr amrywiadau hyn gael effaith ar y cyfraddau trosedd a welir.
Mae’r siart hon yn cymharu lefel troseddau yn eich ardal leol gyda lefel troseddau yng ngweddill ardal eich heddlu. Mae’n dangos cyfanswm nifer y troseddau dros gyfnod deuddeg mis am bob mil o drigolion, ar gyfer y math o drosedd a ddewisir.
Mae’r Siart Patrwm yn dangos sut y mae lefel troseddau yn eich ardal leol ac ardal eich heddlu wedi newid dros amser. Mae hefyd yn dangos sut mae cyfartaledd lefel troseddau mewn ardaloedd tebyg wedi newid dros amser.
Mae’r siart yn dangos y troseddau chwarterol fesul mil o drigolion, ar gyfer y math o drosedd a ddewisir, dros gyfnod o dair blynedd. Noder bod gan rai mathau o droseddau batrymau tymhorol penodol a dylid cadw hyn mewn cof wrth edrych ar y siart.
Grwpiau Mwyaf Tebyg (MSG) yw grwpiau o ardaloedd lleol y canfu iddynt fod yn fwyaf tebyg i’w gilydd gan ddefnyddio dulliau ystadegol wedi eu seilio ar nodweddion demograffig, economaidd a chymdeithasol sy’n ymwneud â throseddau.
Ar y cyfan bydd gan ddwy ardal sydd â nodweddion demograffig, economaidd a chymdeithasol tebyg lefel troseddau eithaf tebyg.
Mae’r Grwpiau Mwyaf Tebyg wedi eu cynllunio i wneud cymariaethau tecach a mwy ystyrlon rhwng ardaloedd.
Mae Partneriaethau Diogelwch Cymunedol yn gweithredu mewn amgylchoedd gwahanol iawn ac yn wynebu gwahanol heriau.
Mae’n fwy ystyrlon i gymharu ardal gydag ardaloedd eraill sydd â nodweddion economaidd gymdeithasol tebyg.
Datblygwyd y dull MSG gan randdeiliaid o’r Swyddfa Gartref, Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu, Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi a rhanddeiliaid allweddol eraill. Dewiswyd y dull presennol yn dilyn cyngor gan academyddion annibynnol.
Dewiswyd pedwar ar hugain amrywiad allan o 70 posibl a oedd ar gael er mwyn creu MSG (gweler Atodiad A). Fe’u nodwyd drwy ystyried lefelau cydberthynas gydag un neu ragor o droseddau, ofn trosedd, neu ddigwyddiadau.
Cyfunir y cydberthnasau hyn gan ddefnyddio techneg a elwir yn Ddadansoddiad Prif Elfen er mwyn pennu amrywiaethau newydd heb gydberthynas sy’n disgrifio orau’r amrywiad rhwng ardaloedd. Pennir y ‘Grwpiau Mwyaf Tebyg’ drwy nodi’r ardaloedd sydd yn fwyaf tebyg ar sail yr amrywiadau newydd hyn.
Cymharir ardaloedd mewn parau er mwyn canfod y ‘pellter’ rhyngddynt ar gyfer pob amrywiad. Yna caiff cyfanswm y pellter rhwng y parau o ardaloedd eu cyfrifo drwy gyfansymu’r pellteroedd wedi eu sgwario ar gyfer yr holl amrywiadau.
Yna caiff pob ardal ei grwpio gyda hyd at 14 ardal arall y mae’n ‘agosaf’ iddynt, ar sail y pellteroedd hyn. Rhoddir manylion mwy technegol am sut y caiff y ‘Grwpiau Mwyaf Tebyg’ hyn eu creu yn Atodiad B.
Mae’r llun dau ddimensiwn isod yn dangos enghraifft yn nodi’r 14 ardal fwyaf tebyg at ardal benodol ar sail dau amrywiad. Mae hyn yn dangos y dull a ddefnyddir i greu’r Grwpiau Mwyaf Tebyg.
Dewiswyd amrywiadau demograffig-gymdeithasol ar sail eu cydberthynas â lefel troseddau. Rhoddir rhestr lawn y 24 amrywiad a ddefnyddiwyd i bennu’r grwpiau ardal leol isod. Fe’u dewiswyd ar sail lefel y gydberthynas gydag un neu ragor o droseddau, ofn trosedd, neu ddigwyddiadau.
1. Canran cartrefi ACORN 1. ACORN yw dataset geo-demograffig perchnogol (CACI) sy’n aseinio disgrifiad cymdogaeth i bob ardal gynnyrch yn y DU (yr ardal ddaearyddol leiaf y mae data Cyfrifiad ar gael ar ei chyfer). Cyfeirir ar ACRON 1 fel “Cyflawnwyr Cyfoethog”.
2. Canran cartrefi ACORN 2: fel uchod ond ar gyfer categori 2 ACORN (cymdogaethau “Ffyniant Trefol”)
3. Canran cartrefi ACORN 4: fel uchod ond ar gyfer categori 4 ACORN (cymdogaethau “Modd Cymedrol”)
4. Canran cartrefi ACORN 5: fel uchod ond ar gyfer categori 5 ACORN (cymdogaethau “Sy’n ei chael hi’n Anodd”)
5. Canran cartrefi myfyrwyr. Canran y cartrefi a gategoreiddir fel cartrefi myfyrwyr o Gyfrifiad 2011.
6. Canran sydd erioed wedi gweithio. Nifer y bobl sydd erioed wedi gweithio fel canran o’r boblogaeth 16-74 oed o Gyfrifiad 2011.
7. Canran mewn galwedigaethau arferol/lled arferol. Canran mewn galwedigaethau arferol/lled arferol neu sydd erioed wedi gweithio fel canran o’r boblogaeth 16-74 oed o Gyfrifiad 2011.
8. Canran parhaol sâl neu anabl. Canran y bobl sydd wedi eu dosbarthu fel parhaol sâl neu anabl o Gyfrifiad 2011.
9. Canran cartrefi teras. Nifer y cartrefi teras wedi ei rannu gyda chyfanswm nifer cartrefi (y ddau o Gyfrifiad 2011) a’i luosi gyda 100.
10. Dwysedd Ardal Gynnyrch (OA). Cyfartaledd a bwysolwyd gan boblogaeth o ddwysedd (poblogaeth/ardal) pob OA. Ei nod yw rhoi gwell arwydd o ddwysedd poblogaeth gan y bydd yn amlygu pocedi bach o dai o boblogaeth ddwys.
11. Canran cartrefi gorlawn. O Gyfrifiad 2011. Dosbarthir cartrefi fel rhai gorlawn os oes ganddynt fwy nag 1+ nifer ystafelloedd gwely. Nod y ffigur yw cynrychioli lefel o ‘rannu annerbyniol’ ystafelloedd mewn eiddo.
12. Canran cartrefi un oedolyn. Nifer y cartrefi sy’n cynnwys dim ond un person 18 oed a hŷn (Cyfrifiad 2011) wedi ei rannu gyda chyfanswm nifer y cartrefi (Cyfrifiad 2011) a’i luosi gyda 100.
13. Canran cartrefi un rhiant. O Gyfrifiad 2011, canran y cartrefi sy’n cynnwys un rhiant a phlant dibynnol (15 oed ac iau, neu 16-18 mewn addysg llawn amser).
14. Canran cartrefi gyda dim oedolion yn gweithio a phlant dibynnol. O Gyfrifiad 2011, canran y cartrefi sy’n cynnwys un rhiant a phlant dibynnol (15 oed ac iau, neu 16-18 mewn addysg llawn amser) a dim oedolion yn gweithio.
15. Teneurwydd poblogaeth. Mae’r amrywiad hwn yn rhoi syniad o gyfran y boblogaeth sy’n byw mewn ardaloedd tenau eu poblogaeth. Mae’n debyg i’r mesur teneurwydd a ddefnyddir yn fformiwla ariannu’r heddlu.
16. Di-waith hirdymor fesul gweithiwr. O NOMIS, nifer y bobl (cyfartaledd Gorffennaf 2011 hyd Mehefin 2014) sy’n hawlio lwfans ceiswyr gwaith am ragor na 6 mis, fel canran o’r boblogaeth oed gweithio.
17. Di-waith hirdymor fesul hawliwr. O NOMIS, nifer y bobl (cyfartaledd Gorffennaf 2011 hyd Mehefin 2014) sy’n hawlio lwfans ceiswyr gwaith am ragor na 6 mis, fel canran o gyfanswm yr hawlwyr.
18. Canran hawlwyr 18-24 oed. O NOMIS, nifer y bobl 18-24 oed (cyfartaledd Gorffennaf 2011 hyd Mehefin 2014) sy’n hawlio lwfans ceiswyr gwaith, fel canran o gyfanswm yr hawlwyr.
19. Canran pobl ar gymhorthdal incwm. O NOMIS, nifer y bobl (cyfartaledd Gorffennaf 2011 hyd Mehefin 2014) sy’n hawlio cymhorthdal incwm, fel canran o’r boblogaeth 16-74 oed o Gyfrifiad 2011.
20. Nifer y mannau manwerthu a hamdden. Mae hwn yn defnyddio data a ddarperir gan gwmni o’r enw Retail Locations sy’n casglu gwybodaeth lleoliad am fanwerthwyr lluosog (h.y. cadwyni / brandiau). Crynhoir y data i gyfrifo’r nifer fesul hectar o fannau manwerthu a hamdden.
21. Barrau fesul hectar. Defnyddio data gan yr Ymchwiliad Busnes Blynyddol.
22. Poblogaeth yn ystod y dydd fesul hectar. Pobl sy’n byw ac yn gweithio (neu ddim yn gweithio) yn yr ardal a’r rheiny sy’n byw y tu allan i’r ardal ac yn gweithio oddi mewn i’r ardal. Nid yw’n cynnwys y bobl hynny sy’n byw yn yr ardal ond yn gweithio tu allan i’r ardal (Cyfrifiad 2011).
23. Mewnlif net yn ystod y dydd (DTNI). Newid yn nifer y bobl yn yr ardal (naill ai’n byw neu’n gweithio) yn ystod y dydd (Cyfrifiad 2011).
24. Canran poblogaeth mewn pentrefannau neu aneddiadau ynysig. Nifer y bobl sy’n byw mewn pentrefannau neu aneddiadau ynysig fel canran o gyfanswm y boblogaeth (Cyfrifiad 2011).
Mae creu Grŵp Mwyaf Tebyg (MSG) yn cynnwys pedwar cam:
Mae’r cam paratoi data yn cynnwys y camau canlynol:
Canlyniadau’r cam Dadansoddiad Prif Elfen yw nifer yr amrywiadau yn cael ei leihau o 24 i 4.
Mae creu grwpiau cyntaf yn cynnwys y camau canlynol:
Mae tocio’r grwpio cyntaf yn cynnwys y camau canlynol:
Mae cyfrifo’r llinellau coch a gwyrdd (arffiniau Uchaf ac Isaf) yn cynnwys 6 cam: