Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Cyhoeddwyd y canllaw hwn i’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu gan Weinidog yr Heddlu a’r Gwasanaeth Tân, yn dilyn ymgysylltu â’r sector plismona.
Mae’n nodi disgwyliadau’r Llywodraeth ynglŷn â’r wybodaeth sydd i’w chyhoeddi gan y Comisiynwyr Heddlu a Throseddau am eu strategaethau ar gyfer cronfeydd ariannol wrth gefn.
Bwriad y Llywodraeth yw cynnwys y canllaw hwn yn fersiwn nesaf y Cod Ymarfer Rheolaeth Ariannol (canllaw statudol) sydd i’w roi gerbron y Senedd.
Dylai pob Comisiynydd Heddlu a Throseddu gyhoeddi ei strategaeth cronfeydd wrth gefn ar ei wefan, naill ai fel rhan o’i gynllun ariannol tymor canolig neu mewn dogfen strategaeth cronfeydd wrth gefn ar wahân.
Dylai’r strategaeth cronfeydd wrth gefn gynnwys manylion lefelau’r cronfeydd wrth gefn wedi'u cynllunio presennol a rhai’r dyfodol, gan nodi cyfanswm y cronfeydd wrth gefn a swm pob cronfa wrth gefn benodol a ddelir ar gyfer pob blwyddyn.
Dylai’r strategaeth cronfeydd wrth gefn gwmpasu cronfeydd wrth gefn adnoddau a chyfalaf a darparu gwybodaeth ar gyfer cyfnod y cynllun ariannol tymor canolig (ac o leiaf ddwy flynedd i’r dyfodol).
Dylid darparu digon o wybodaeth fel y gellir deall ar gyfer pa ddiben(ion) y delir pob cronfa wrth gefn a sut mae dal pob cronfa wrth gefn yn cefnogi cynllun ariannol tymor canolig y Comisiynydd Heddlu a Throseddu.
Dylai’r strategaeth gael ei threfnu mewn modd sy’n glir a dealladwy i aelodau’r cyhoedd, a dylai gynnwys:
Dylai’r wybodaeth am bob cronfa wrth gefn ei gwneud hi’n glir faint o’r cyllido sy’n dod i’r tri chategori canlynol: