Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Sbeicio yw pan fo rhywun yn rhoi alcohol neu gyffuriau yn niod neu yng nghorff person arall heb eu caniatâd a heb yn wybod iddyn nhw.
Gall pobl hefyd ddioddef ‘sbeicio drwy bigo’, sef chwistrellu rhywun â chyffuriau heb eu caniatâd.
Gall sbeicio ddigwydd i unrhyw un, unrhyw le a hynny gan bobl ddiarth neu bobl rydych chi’n eu nabod.
Gallai sbeicio rhywun fod yn nifer o droseddau, sy’n gallu dod â dedfryd o hyd at ddeng mlynedd o garchar; hyd yn oed pan nad oes trosedd arall, fel lladrad neu ymosod, wedi digwydd.
Gall fod yn anodd dweud a ydy’ch diod wedi cael ei sbeicio ond os sylwch chi fod golwg neu flas eich diod wedi newid, stopiwch yfed. Os ydych chi mewn bar neu glwb dwedwch wrth y staff neu’r bobl ddiogelwch ar unwaith.
Os ydych chi’n credu eich bod chi neu ffrind wedi cael eich sbeicio, mae amryw o bethau i chwilio amdanyn nhw, gan gynnwys:
Gall fod yn anodd nabod y symptomau gan eu bod nhw’n amrywio gan ddibynnu ar yr hyn rydych chi wedi cael eich sbeicio ag e ac mae’n gallu bod yn debyg i gael gormod o alcohol. Os dechreuwch chi deimlo’n rhyfedd neu’n fwy meddw nag oeddech chi’n meddwl y dylech chi fod, gofynnwch am help yn syth.
Os ydych chi’n credu eich bod chi neu ffrind wedi cael eich sbeicio, mae’n bwysig dweud wrth rywun cyn gynted ag y gallwch.
Os oes gennych chi neu rywun arall symptomau
Os ydych chi’n credu bod ymosodiad rhywiol wedi bod o bosib
Gadael i bobl wybod sy’n rhoi’r cyfle gorau ichi gael gofal ac iddyn nhw gasglu unrhyw dystiolaeth lle gallai trosedd fod wedi digwydd.
Rydyn ni’n gwybod y gall fod yn frawychus riportio eich bod wedi cael eich sbeicio, ond mae’r heddlu yma i’ch helpu. Byddan nhw’n gwrando arnoch chi ac yn eich cymryd chi o ddifrif.
Ar ôl i’r peth gael ei riportio, os ydyn ni’n amau bod sbeicio wedi digwydd, gall swyddogion gymryd sampl iwrin heb amharu arnoch chi.
Mae rhai cyffuriau yn gadael y corff mewn llai na 12 awr, felly mae’n bwysig riportio a phrofi cyn gynted â phosib. Mae cyffuriau eraill yn aros yn y corff yn hirach, felly gall profion ddigwydd hyd at saith diwrnod wedi’r digwyddiad.
Bydd canlyniadau’r profion yn dod yn ôl mewn tair wythnos ac fe gewch chi’r newyddion diweddaraf am y cynnydd gennyn ni.
Dyw hi ddim yn drosedd bod â chyffuriau anghyfreithlon yn eich system (oni bai eich bod yn gyrru), felly peidiwch â gadael i hyn eich atal rhag riportio’r peth. Rydyn ni’n gwybod y gall riportio fod yn frawychus, ond rydyn ni yma i’ch helpu.
Byddwn ni hefyd yn penderfynu a oes unrhyw droseddau ychwanegol wedi digwydd ac yn rhoi cymorth i chi.
Os cewch chi’ch profi gan eich meddyg teulu neu mewn ysbyty bydd angen ichi gael prawf gan yr heddlu hefyd, a hynny er mwyn i’r canlyniadau gael eu defnyddio fel tystiolaeth.
Dylai pawb deimlo’n ddiogel i fwynhau eu hunain heb boeni am gael eu sbeicio. Ond, mae yna gamau y gallwch eu cymryd i helpu i leihau’r risg o gael eich sbeicio, gan gadw chi’ch hun a phobl eraill yn ddiogel yr un pryd.