Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Yn yr adran hon:
| Yr hanfodion: eich opsiynau |
| Cael help a chefnogaeth |
| Riportio’r peth i’r heddlu |
| Rhagor o gefnogaeth emosiynol ac ymarferol |
Camdriniaeth drwy ddefnyddio delweddau personol heb gydsyniad, neu bornograffi dial, yw:
Mae’n drosedd rywiol ddifrifol. Os bydd rhywun yn gwneud unrhyw un o’r canlynol heb eich caniatâd, mae’n cael ei ystyried yn gamdriniaeth drwy ddefnyddio delweddau personol heb gydsyniad:
Os cafodd y lluniau personol eu tynnu heb eich caniatâd, gallai hynny fod yn drosedd hefyd.
Bydd y canllawiau isod yn eich helpu i ddeall yr opsiynau sydd gennych.
Does dim ffordd gywir neu anghywir o deimlo os bydd rhywun yn rhannu, neu’n bygwth rhannu, delweddau neu fideos personol ohonoch chi heb eich caniatâd. Ac mae’n bwysig gwybod nad eich bai chi yw hynny.
Mae gennych chi opsiynau yn dibynnu ar beth rydych chi am ei wneud nesaf. Mae’r dolenni isod yn mynd i dudalennau pwrpasol sy’n cynnwys rhagor o wybodaeth am bob opsiwn. Does dim rhaid i chi wneud pethau mewn trefn benodol, na gwneud unrhyw un ohonyn nhw hyd yn oed. Chi sydd i ddewis beth bynnag sy’n teimlo’n iawn i chi.
Mae’r Llinell Gymorth Pornograffi Dial yn gallu eich helpu i dynnu eich delweddau neu fideos personol o fannau ar-lein. Mae adnoddau fel StopNCII.org yn gallu helpu i atal eich delweddau neu fideos personol rhag cael eu llwytho i fyny os oes rhywun yn bygwth eu rhannu.
Mae ein tudalen help a chefnogaeth yn cynnwys rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau hyn. Mae hyn yn cynnwys sut gallwch chi gymryd camau drwy roi gwybod yn uniongyrchol i gwmnïau cyfryngau cymdeithasol a gwefannau i oedolion.
Gallwch chi roi gwybod beth sydd wedi digwydd i’r heddlu. Rydyn ni yma i’ch helpu chi a rhoi unrhyw gefnogaeth sydd ei hangen arnoch chi.
Rydyn ni’n deall y gallech chi fod yn dioddef niwed ar wahân i gamdriniaeth drwy ddefnyddio delweddau personol heb gydsyniad. Er enghraifft, gallech chi hefyd fod yn dioddef blacmel rhywiol, stelcio ac aflonyddu, a cham-drin domestig. Gallai’r pethau hyn gynnwys rhannu, neu fygythiadau i rannu, delweddau neu fideos personol heb eich caniatâd hefyd.
Efallai fod rhywun yn bygwth rhannu delweddau neu fideos ohonoch chi nad ydynt yn rhai personol, ond eu bod yn breifat mewn ffordd arall. Er enghraifft, rhai a allai achosi problemau i chi o fewn eich teulu neu eich cymuned. Gallai hyn gynnwys blacmel.
Does dim angen i chi benderfynu pa drosedd sydd wedi digwydd i chi. Does dim rhaid i chi benderfynu a yw’r hyn sydd wedi digwydd i chi yn cyd-fynd â’r diffiniad cyfreithiol o gamdriniaeth drwy ddefnyddio delweddau personol heb gydsyniad chwaith. Os nad yw rhywbeth yn teimlo’n iawn, gallwch chi roi gwybod am yr hyn sydd wedi digwydd.
Mae rhagor o wybodaeth am beth i’w ddisgwyl ar ein tudalen riportio’r peth i’r heddlu. Mae hyn yn cynnwys y dystiolaeth gallech chi ei chasglu os oes modd.
Os bydd rhywun yn rhannu, neu’n bygwth rhannu, delweddau neu fideos personol ohonoch chi, gallech chi deimlo ofn, pryder, a theimladau o ddrwgdybiaeth ac ymyrraeth â’ch preifatrwydd. Neu gallech chi ymateb mewn ffordd arall.
Sut bynnag rydych chi’n teimlo, mae sefydliadau cymorth ac elusennau sy’n gallu eich helpu.
Mae’r rhestr lawn o opsiynau ar ein tudalen rhagor o gefnogaeth emosiynol ac ymarferol.