Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Os ydych chi’n credu bod trais neu ymosodiad rhywiol wedi digwydd, ewch i’ch canolfan atgyfeirio ymosodiadau rhywiol (SARC) agosaf i gael cymorth a gofal arbenigol.
Gallwch gael prawf meddygol fforensig mewn SARC. Gallwn ni eich cyfeirio at SARC neu fe allwch chi gyfeirio eich hun heb ein cynnwys ni o gwbl.
Dod o hyd i’ch SARC agosaf:
Mae rhai SARCs mewn ysbytai, tra bo eraill yn annibynnol. Mae enwau gwahanol arnyn nhw mewn gwahanol leoliadau.
Byddwch yn cael cefnogaeth drwy gydol y broses o gael archwiliad meddygol. Nyrs neu feddyg fydd yn cynnal yr archwiliad. Maen nhw wedi cael hyfforddiant arbennig i wneud hyn mor sensitif â phosibl. Gallwch ofyn am gael gweld nyrs neu feddyg gwrywaidd neu fenywaidd. Byddant yn gofyn am eich hanes meddygol ac yn egluro beth yn union fydd yn digwydd.
Byddan nhw’n:
Siaradwch â nhw os ydych chi am roi tystiolaeth ond ddim am ei rhannu â’r heddlu eto.
Os oes modd, ceisiwch osgoi:
Pethau y dylech chi eu gwneud
Peidiwch â phoeni os ydych chi wedi gwneud unrhyw un o'r pethau hyn yn barod neu os ydy hi’n rhy hwyr i wneud unrhyw un ohonynt. Dydy hynny ddim yn golygu ei bod hi’n rhy hwyr i gasglu tystiolaeth fforensig.
Os ydych chi’n riportio trais neu ymosodiad rhywiol sy'n ymwneud â sbeicio i ni efallai y byddwn yn cynnig pecyn tystiolaeth gynnar i chi gasglu tystiolaeth fforensig cyn i chi fynd am archwiliad meddygol fforensig (os ydych chi’n penderfynu cael un).
Mae hyn yn golygu ein bod yn gallu casglu tystiolaeth a allai gael ei cholli fel arall, fel sampl wrin os ydych chi angen mynd i’r toiled.