Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Hacio yw pan fydd troseddwr yn sicrhau mynediad heb awdurdod at system gyfrifiadur. Mae hyn yn digwydd fel arfer dros y rhyngrwyd. Gall fod yn gyfrifiadur mewn busnes, banc, neu eich dyfais bersonol chi’ch hunan gartref.
Pan fydd haciwr wedi cael mynediad at system, maen nhw’n gallu gwneud unrhyw beth y gall defnyddiwr go iawn ei wneud. Efallai y byddan nhw'n dwyn gwybodaeth sensitif neu’n gosod maleiswedd. Gallen nhw hyd yn oed gael mynediad at gyfrifon banc ar-lein.
Gallwch wirio a ydy’ch cyfeiriad ebost neu’ch cyfrinair wedi’u datgelu ar-lein ar wefan ‘Have I Been Pwned’.
Meddalwedd faleisus yw ystyr maleiswedd. Mae'n cyfeirio at raglenni sydd wedi’u creu i ddifrodi’n dyfeisiau neu i gael mynediad heb awdurdod i'n dyfeisiau. Yna gall y rhaglenni hyn amharu ar weithrediad arferol y ddyfais neu ddwyn gwybodaeth.
Mae’r gwahanol fathau o faleiswedd yn cynnwys:
Gall maleiswedd fynd i mewn i gyfrifiadur neu ddyfais trwy’r canlynol:
Mae ymosodiad atal gwasanaeth yn atal gwefan neu wasanaeth arall ar y rhyngrwyd rhag bod ar gael. Mae'r ymosodwr yn anfon nifer enfawr o geisiadau i'r wefan neu'r gwasanaeth ar un waith, a’i chwalu. Mae ymosodiadau gan fwy nag un cyfrifiadur yn cael eu galw’n 'ymosodiadau atal gwasanaeth gwasgaredig (DDoS)'.
Sefydliadau sydd â phroffil uchel yw’r rhan fwyaf o ddioddefwyr ymosodiadau atal gwasanaeth. Mae hyn yn cynnwys cwmnïau rhyngwladol, asiantaethau'r llywodraeth, banciau a sefydliadau ariannol eraill.
Nid yw ymosodiadau atal gwasanaeth yn achosi difrod eu hunain. Pan ddaw’r ymosodiad i ben, mae pethau yn gyffredinol yn dychwelyd i'r arfer. Yn hytrach, maen nhw’n gallu gwneud ichi golli busnes neu greu niwed i enw da.
Os ydych chi'n rhedeg gwefan neu wasanaeth ar y rhyngrwyd, arwyddion nodweddiadol o ymosodiad atal gwasanaeth yw:
Os ydych chi’n credu bod ymosodiad ar waith yn erbyn eich system neu’ch gwasanaeth, fe ddylech chi:
Ewch i’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol i gael canllawiau manwl am ymosodiadau atal gwasanaeth.
Os ydych chi'n dioddef ymosodiad seiber byw sy'n digwydd ar hyn o bryd, cysylltwch â ni ar 101.
Os ydych chi'n amau eich bod wedi dioddef sgâm, twyll neu seiberdrosedd, yna gall tîm Report Fraud ddarparu'r cymorth, y gefnogaeth a'r cyngor sydd eu hangen arnoch.
Ffoniwch Report Fraud ar 0300 123 2040 (ffôn testun 0300 123 2050).