Os oes gennych ddiddordeb yn unrhyw rai o’r rolau neu’r cyfleoedd hyn, cliciwch ar ddolen y wefan neu cysylltwch â’ch heddlu lleol am ragor o wybodaeth.
Rôl Gwirfoddoli | Disgrifiad | Gwybodaeth Bellach |
---|---|---|
Cwnstabliaeth Rhan Amser | Llu o wirfoddolwyr wedi’u hyfforddi sy’n gweithio gydag ac yn cefnogi eu heddlu lleol yw’r cwnstabliaeth rhan amser. Mae’r ‘Specials’, fel y caiff cwnstabliaid rhan amser eu hadnabod yn dod o bob cefndir gwaith - maent yn athrawon, gyrwyr tacsi, cyfrifyddion ac ysgrifenyddion, neu unrhyw nifer o yrfaoedd eraill - ac maent i gyd yn gwirfoddoli o leiaf pedair awr yr wythnos i’w heddlu lleol, gan ffurfio dolen hollbwysig rhwng yr heddlu rheolaidd (llawn amser) a’r gymuned leol. Unwaith y bydd cwnstabliaid rhan amser wedi cwblhau eu hyfforddiant, mae ganddynt yr un pwerau â swyddogion rheolaidd ac maent yn gwisgo lifrai tebyg. |
policerecruitment.homeoffice.gov.uk/special-constables |
Gwirfoddolwyr Cymorth yr Heddlu (PSV) | Mae Gwirfoddolwyr Cymorth yr Heddlu yn wirfoddolwyr o blith dinasyddion sy’n rhoi o’u hamser i gyflawni tasgau sy’n ategu’r dyletswyddau a wneir gan swyddogion a staff heddlu. Mae hyn yn gymorth i ryddhau swyddogion a staff i gyflawni dyletswyddau gweithredol allweddol. Mae rolau’r gwirfoddolwyr yn amrywio o ddarparu gwasanaethau cownter blaen a gwaith gweinyddu i ddilyn adroddiadau troseddau a digwyddiadau gyda’r cyhoedd. Mae’r rolau gwirfoddoli hyn yn rhoi manteision sylweddol i’r Gwasanaeth Heddlu ac i gymunedau lleol. | Cysylltwch â’ch heddlu lleol am ragor o fanylion. |
Rhwydwaith Gwarchod Cymdogaeth a Chartrefi (NHWN) | Mae’r Rhwydwaith Gwarchod Cymdogaeth a Chartrefi yn dwyn cymdogion ynghyd i greu cymunedau cryf a chyfeillgar lle mae troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol efallai’n llai tebygol o ddigwydd. Mae’r Rhwydwaith yn rhoi i bobl o’r un bryd yr adnoddau y mae eu hangen arnynt i gyfarfod, dechrau cynlluniau, rhannu gwybodaeth a rhagor. Mae dros 170,000 cynllun Gwarchod Cymdogaeth a Chartrefi ar draws Cymru a Lloegr. | www.ourwatch.org.uk |
Taclo’r Taclau | Mae Taclo’r Taclau yn elusen annibynnol sy’n helpu i ddod o hyd i droseddwyr a datrys troseddau. Mae’n darparu rhif ffôn dienw 24/7 y gall pobl ei ffonio i roi gwybodaeth am droseddau; fel arall gall pobl anfon gwybodaeth yn ddienw drwy wefan Taclo’r Taclau. Cefnogir Taclo’r Taclau gan waith caled a thalent dros 500 o wirfoddolwyr. |
www.crimestoppers-uk.org |
Gweinidogion y Stryd | Mae Gweinidogion y Stryd yn darparu ymateb rhyngenwadol i broblemau trefol, gan ymgysylltu â phobl ar y stryd i ofalu, gwrando a sgwrsio. Mae Gweinidog y Stryd yn arweinydd/gweinidog neu aelod Eglwys sydd â phryder am gymdeithas - yn enwedig pobl ifanc sy’n teimlo eu bod wedi eu hallgau ac wedi’u hymylu - ac sy’n barod i ymgysylltu â phobl. |
www.streetpastors.co.uk |
Angylion Stryd/ Rhwydwaith Mentrau Bywyd Nos Cristnogol | Mae Angylion Stryd yn gweithio mewn trefi a dinasoedd ledled y DU ac fe’u cysylltir drwy’r Rhwydwaith Mentrau Bywyd Nos Cristnogol. Maent yn gweithio i fynd i’r afael â rhai o’r materion sy’n ymwneud â’r economi hwyr y nos yng nghanol trefi ar nosweithiau Gwener a Sadwrn. Nid oes raid i chi fod yn Gristion nac yn aelod o eglwys er mwyn gwirfoddoli. |
www.halifaxstreetangels.org.uk cninet.weebly.com |
Cymdeithas Genedlaethol Caplaniaid yr Heddlu | Mae Caplaniaid yr Heddlu yn darparu gofal i unigolion o fewn pob llu. Maent hefyd yn gofalu am y sefydliad, yn gweithredu fel ffrindiau critigol o fewn y prosesau gwneud penderfyniadau. Tynnir Caplaniaid o bob ffydd. Gallant fod yn wirfoddolwyr yn rhoi lleiafswm o ddwy awr yr wythnos. |
www.police-chaplains.org.uk |
Cymorth i Ddioddefwyr | Mae Cymorth i Ddioddefwr yn elusen genedlaethol sy’n rhoi cymorth am ddim a chyfrinachol i ddioddefwyr troseddau, tystion, eu teuluoedd, ffrindiau ac unrhyw un arall yr effeithir arnynt ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae Cymorth i Ddioddefwyr hefyd yn llais cenedlaethol dros ddioddefwyr a thystion ac yn ymgyrchu i gael newid. Mae Cymorth i Ddioddefwyr wedi ei adeiladu ar ymroddiad ei wirfoddolwyr. Mae pedair gwaith yn fwy o wirfoddolwyr nag sydd o gyflogeion. |
www.victimsupport.org.uk www.victimsupportni.co.uk |
Gwylio Cyflymder Cymunedol | Mae gwylio cyflymder cymunedol yn gynllun i gynorthwyo pobl i leihau traffig sy’n gwibio drwy eu cymuned. Mae’r cynllun yn galluogi gwirfoddolwyr i weithio yn eu cymuned a gyda’r heddlu i godi ymwybyddiaeth o beryglon gyrru cyflym ac i gynorthwyo i reoli’r broblem yn lleol. | Chwiliwch am eich gwefan gwylio cyflymder cymunedol leol neu cysylltwch â’ch heddlu lleol am fanylion. |
Ymwelwyr Annibynnol â’r Ddalfa | Mae Ymwelwyr Annibynnol â’r Ddalfa, yn aelodau o’r cyhoedd sy’n cynnal ymweliadau cyson dirybudd i wirio safonau cadw pobl yn y ddalfa. Mae gan yr ymwelwyr ran hollbwysig mewn codi safonau a chynorthwyo i sicrhau triniaeth deg i rai sydd yn y ddalfa. Mae eu hymweliadau hefyd yn gwella atebolrwydd a thryloywder yr heddlu ymhlith y cymunedau a wasanaethir ganddynt. | www.icva.org.uk |
Grwpiau Cynghori Annibynnol | Mae Grwpiau Cynghori Annibynnol yn grwpiau o gynrychiolwyr cymunedol sy’n cyfarfod â’r heddlu yn rheolaidd. Rhydd hyn y cyfle i roi adborth i’r heddlu o’r gymuned ac i gyflwyno safbwynt y gymuned. | Cysylltwch â’ch heddlu lleol am ragor o fanylion. |
Ymdrechion ymgynghori’r Heddlu | Mae’n statudol ofynnol i wneud trefniadau ym mhob ardal heddlu i gasglu barn y gymuned leol ar y gwaith plismona yn yr ardal. Galluoga hyn aelodau o’r cyhoedd i chwarae rhan mewn datblygu polisi plismona lleol. | Cysylltwch â’ch heddlu lleol am ragor o fanylion. |
Dinasyddion mewn Plismona | Term a ddefnyddir i ddisgrifio’r miloedd o bobl ledled y DU sy’n rhoi o’u hamser i gefnogi’r heddlu yw Dinasyddion mewn Plismona. Mae rôl dinasyddion mewn plismona yn hollbwysig – mae gwirfoddolwyr yn cynyddu gallu ein heddluoedd, gan ddod â sgiliau gwerthfawr ac arbenigedd i dimau’r heddlu a chreu cysylltiadau agosach a mwy effeithiol gyda’n cymunedau. |
www.citizensinpolicing.net |