Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Fel rhan o agenda'r llywodraeth i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a genethod, rydym yn defnyddio adnodd ar-lein newydd o’r enw StreetSafe i alluogi pobl, yn enwedig menywod a genethod, i riportio mannau lle maen nhw’n teimlo neu wedi teimlo'n anniogel ac i enwi’r nodweddion yn y lleoliad hwnnw a wnaeth iddyn nhw deimlo'n anniogel.
Mae StreetSafe sy'n cael ei gefnogi gan yr heddlu ac sydd wedi'i ddatblygu mewn cydweithrediad â'r Swyddfa Gartref a Chyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu (NPCC).
Mae’r peilot hwn yn canolbwyntio ar ddod o hyd i ardaloedd a ffactorau penodol sy'n gwneud i bobl deimlo'n anniogel ac a allai helpu troseddwyr i gyflawni neu guddio trosedd – fel goleuadau stryd, adeiladau gwag neu fannau sydd heb gael eu cynllunio'n dda a fandaliaeth, ac ymddygiad unigolion neu grwpiau o bobl.
Mae StreetSafe yn ddienw. Fydd yna ddim cwestiynau am pwy ydych chi, fel eich enw neu’ch dyddiad geni. Ond, mae yna gwestiynau dewisol ynghylch riportio troseddau yn ogystal â’ch oedran, eich rhyw, eich rhywedd, eich ethnigrwydd, eich crefydd, eich cyfeiriadedd rhywiol, eich afiechydon neu’ch anableddau. Rydyn ni’n gofyn am yr wybodaeth hon gan ei bod yn ein helpu i ddeall eich pryderon yn well, ond does dim rhaid ichi ateb os nad ydych am wneud hynny.
Byddwn yn parhau i ymgynghori ar y defnydd o’r adnodd hwn a’i ofynion, er mwyn helpu i’w ddatblygu yn y dyfodol.
Mae’r adnodd yn casglu:
Bydd y data o StreetSafe ar gael i Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu a thimau plismona lleol i'w rhannu gydag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill fel rhan o’u partneriaethau cymunedol er mwyn cael gwell dealltwriaeth o broffiliau daearyddol a llywio’u gweithgareddau diogelwch cymunedol.
Bydd y data hefyd ar gael i swyddogion polisi'r llywodraeth sy'n gyfrifol am wneud ein strydoedd yn fwy diogel.
Rydyn ni wedi rhoi reCAPTCHA v2 ar waith ar ein gwefan ac mae defnydd ReCAPTCHA v2 yn dod o dan Bolisi Preifatrwydd a Thelerau Gwasanaeth Google. Dim ond i ymladd yn erbyn unrhyw ymosodiad ar ein gwefan y mae ReCAPTCHA yn cael ei ddefnyddio.
Mae Polisi Preifatrwydd Google ar ReCAPTCHA ar gael yn – https://policies.google.com/privacy
Mae Telerau Gwasanaeth Google ar ReCAPTCHA ar gael yn - https://policies.google.com/terms?hl=en
Bydd yr holl ddata dienw yn cael ei storio ar dyfeisiadau wedi'u hamgryptio ac wedi'u diogelu â chyfrinair er mwyn amddiffyn rhag colled neu ddifrod. Bydd unrhyw ddata yn cael ei gadw fel rhan o agenda'r llywodraeth i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a genethod. Bydd hyd y peilot hwn a'r hyn sy'n digwydd nesaf yn cael ei bennu ar ôl cyfnod o dri mis wedi’r lansiad pan gaiff yr ymatebion gan y cyhoedd eu hadolygu.
Gallwch ofyn cwestiynau am yr offeryn casglu data hwn neu roi gwybod am unrhyw broblemau gydag ef gan ddefnyddio'r ffurflen hon.