Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 yw’r brif ddeddfwriaeth sy’n ymdrin â chyffuriau. Mae’n rhoi cyffuriau mewn gwahanol gategorïau a adnabyddir fel Dosbarth A, B ac C. Gelwir cyffuriau a reoleiddir yn y modd hwn yn sylweddau ‘dan reolaeth’. Cyffuriau Dosbarth A yw’r rheini a ystyrir i fod yn fwyaf niweidiol.
O dan y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau mae’n drosedd i wneud y canlynol:
Darganfod mwy am adnabod cyffuriau a chymryd cyffuriau.
Gallwch helpu drwy ffonio Taclo’r Taclau yn ddienw ar 0800 555 111 os oes gennych unrhyw wybodaeth am ddelwyr cyffuriau. Bydd Taclo’r Taclau yn casglu gwybodaeth ac yn ei throsglwyddo i’r heddlu er mwyn cynorthwyo i arestio a chyhuddo troseddwyr. I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Taclo’r Taclau.
Mae llinell gymorth Frank yn darparu gwasanaethau cyngor, cwnsela ac atgyfeirio cyfrinachol am ddim 24 awr y dydd. Mae gan wefan Talk to Frank hefyd gyfleuster ar gyfer dod o hyd i sefydliadau yn eich ardal leol all eich helpu.