Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Defnyddir technoleg Adnabod Rhifau Cerbydau yn Awtomatig (ANPR) i gynorthwyo i ddatrys, atal ac aflonyddu ar droseddoldeb ar lefel leol, llu, rhanbarthol a chenedlaethol, yn cynnwys mynd i’r afael â throseddwyr teithiol, Grwpiau Troseddau Trefnedig a therfysgwyr. Mae ANPR yn rhoi llwybrau ymholi a thystiolaeth wrth ymchwilio troseddau ac fe’i defnyddir gan asiantaethau gorfodi’r gyfraith ledled Cymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Wrth i gerbyd basio camera ANPR caiff ei rif cofrestru ei ddarllen a’i wirio ar unwaith yn erbyn cofnodion cronfa ddata cerbydau sydd o ddiddordeb. Gall swyddogion heddlu stopio cerbyd, ei wirio am dystiolaeth a, lle bo hynny’n angenrheidiol, gwneud arestiadau.
Caiff cofnod pob cerbyd sy’n pasio camera ei storio, yn cynnwys cofnodion ar gyfer cerbydau na wyddir eu bod o ddiddordeb pan y’u darllenir a allai mewn amgylchiadau priodol gael eu cyrchu at ddibenion ymchwilio.
Mae defnyddio ANPR yn y modd hwn wed bod yn bwysig wrth ddatrys nifer o droseddau, yn cynnwys lleoli cerbydau sydd wedi eu dwyn, mynd i’r afael â defnydd o gerbydau heb eu hyswirio a datrys achosion o derfysgaeth, troseddau mawr a threfnedig.
Bydd hefyd yn caniatáu i sylw swyddogion gael ei dynnu at gerbydau tramgwyddus gan ganiatáu i’r gyrwyr sy’n cadw at y gyfraith fynd ynghylch eu busnes yn ddirwystr.
Mae camerâu ANPR mewn heddluoedd yn cyflwyno copïau o nodau cofrestru cerbydau i’r Ganolfan Ddata ANPR Genedlaethol (NADC) yn ddyddiol. Caiff data ANPR o bob heddlu ei storio gyda data tebyg o heddluoedd eraill am gyfnod o ddwy flynedd.
Mae Safonau Cenedlaethol ANPR ar gyfer Plismona a Gorfodi’r Gyfraith (NASPLE) a’r Safonau Cydymffurfiaeth ac Archwilio Cenedlaethol ar gyfer ANPR Gorfodi’r Gyfraith (Safonau Archwilio) yn darparu rheolau clir i reoli mynediad at ddata ANPR er mwyn sicrhau bod y mynediad ar gyfer dibenion ymchwilio cyfreithlon. Bydd gan aelodau staff fynediad at ddata ANPR dim ond os yw’n berthnasol i’w rôl, a gall y mwyafrif sydd â chaniatâd ond gwneud hynny am hyd at 90 diwrnod o’r dyddiad y’i casglwyd. Mae gan rai aelodau staff awdurdod i gyrchu data am hyd at flwyddyn yn amodol ar awdurdodiad gan uwch reolwr.
Gall chwiliadau data ANPR gadarnhau a yw cerbydau sy’n gysylltiedig â throseddwr y gwyddir amdanynt wedi bod yn yr ardal ar adeg trosedd a gall gyflymu ymchwiliadau yn fawr iawn.
Yn ogystal â chael eu gosod mewn cerbydau heddlu, defnyddir camerâu ANPR mewn lleoliadau sefydlog lle byddant yn cynorthwyo i ddatrys, atal neu aflonyddu ar droseddoldeb. Yn unol â pholisi cenedlaethol, nid ydym yn datgelu manylion ein lleoliadau sefydlog gan y byddai’r wybodaeth hon yn debygol o fod o fudd i droseddwyr ac os ydynt yn hysbys gallant leihau gwerth ANPR i blismona.
Dywed canllawiau cenedlaethol os yw llu heddlu yn cynnig gosod camerâu ANPR ychwanegol, rhaid cynnal asesiad sy’n dangos angen amlwg, gan roi ystyriaeth i’r ffactorau canlynol:
Wrth asesu a yw camerâu newydd i gael eu defnyddio, cynhelir Asesiad Effaith Preifatrwydd. Bydd asiantaethau gorfodi’r gyfraith yn ymgynghori â phersonau a sefydliadau sydd â diddordeb rhesymol yn y cynnig oni bai y byddai hynny’n groes i ddiben y datblygiad, sef datrys, atal ac aflonyddu ar droseddoldeb.
Mae asiantaethau gorfodi’r gyfraith hefyd wedi ymrwymo i adolygu’n rheolaidd leoliad camerâu ANPR, yng nghyd-destun y meini prawf uchod, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir dal i gyfiawnhau parhad yn eu defnydd. Bydd pob adolygiad yn cynnwys rhoi ystyriaeth i’r effaith ar breifatrwydd.
Mae gwybodaeth ychwanegol a chopïau o ddogfennau perthnasol ar gael yn https://www.npcc.police.uk/FreedomofInformation/ANPR.aspx