Coronafeirws (Covid-19)
Rydyn ni’n gweithio'n galed i'ch cadw'n ddiogel rhag coronafeirws a throseddau.
Argyfyngau
Rydym yn dal i ymateb i alwadau brys a galwadau â blaenoriaeth uchel. Ond os nad yw'n argyfwng neu'n fater brys, defnyddiwch ein gwasanaethau ar-lein yn lle ffonio.
Yr hyn y cewch chi ac na chewch chi ei wneud
Mae'r rheolau'n wahanol gan ddibynnu ar ba wlad rydych chi ynddi:
Gall ardaloedd sydd â niferoedd uchel o achosion coronafeirws weld cyfyngiadau llymach yn cael eu gosod yn lleol.
Cau busnesau a lleoliadau
Mae llawer o fusnesau’n cael agor erbyn hyn. Mae'n rhaid i rai busnesau aros ar gau, gan ddibynnu ar ba wlad maen nhw ynddi.
Rhagor o wybodaeth am gau busnesau
Dod i mewn i’r Deyrnas Unedig
Os ydych yn cyrraedd y Deyrnas Unedig o wlad nad oes coridor teithio wedi’i drefnu gyda hi, mae’n rhaid ichi hunan-ynysu am 14 diwrnod.
Mae'r union reolau a’r cosbau am eu torri yn dibynnu ar ba wlad rydych chi’n teithio iddi.
Mae'r heddlu ac awdurdodau fel Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydweithio i sicrhau bod pobl yn dilyn y rheolau cwarantin.
Yr hyn rydyn ni’n ei wneud
Os oes problem fe hoffem ei datrys drwy gyfathrebu'n glir ac annog pobl i ymddwyn yn gyfrifol.
Fel dewis olaf, rydyn ni’n gallu gorfodi’r gyfraith ynghylch coronafeirws drwy fynd â phobl adref a thrwy eu dirwyo.
Rhagor am y coronafeirws a phwerau'r heddlu
Riportio torri’r rheolau
Gallwch ddweud wrthon ni am droseddau yn erbyn y rheolau coronafeirws ar-lein. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall yr hyn sy'n cael ei ganiatáu ac nad yw’n cael ei ganiatáu cyn i chi gysylltu â ni.
Rydyn ni am i chi ddweud wrthon ni’n arbennig am dorfeydd mawr o bobl sy’n amlwg yn dod o aelwydydd gwahanol.
Cyngor a gwybodaeth
-
Cau busnesau a lleoliadau
-
Pwerau’r heddlu ynghylch Coronafeirws (Covid-19)
-
Cymorth i bobl sy’n agored i niwed
-
Lloegr - Rheolau ar ymbellhau cymdeithasol yn ystod coronafeirws
-
Rheolau coronafeirws yng Ngogledd Iwerddon
-
Rheolau coronafeirws yn yr Alban
-
Rheolau coronafeirws yng Nghymru
-
MOTs
-
Camdriniaeth ddomestig yn ystod cyfyngiadau coronafeirws
-
Y system gyfreithiol yn ystod cyfyngiadau coronafeirws
-
Caethwasiaeth fodern
-
Cyngor a gwybodaeth am y coronafeirws ar Gov.uk
-
Deddfwriaeth ar goronafeirws
-
Trosedd bosibl yn erbyn y mesurau coronafeirws
-
Cyfyngiadau lleol